Llesiant Iechyd Corfforol - Llesiant Iechyd Meddwl - Llesiant Ariannol - Grwpiau a Gwasanaethau Ieuenctid - Cymunedau Ffydd
Grwpiau Camddefnyddio Sylweddau - Grwpiau Cymunedol LGBTQ+ - Grwpiau Cymunedol BAME
Grwpiau Cymdeithasol - Grwpiau Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad

 





Edrych - Felodrom Caerfyrddin

Mae pob tref yn unigryw ond mae Caerfyrddin yn un arbennig iawn , oherwydd ei lleoliad daearyddol a’i hanes hir ac amrywiol, ei diwylliant, a’i phwysigrwydd fel prif dref y sir. Mae ei lleoliad wrth benllanw’r môr a’r man isaf i bontio’r Afon Tywi ac felly’n ganolog i holl Orllewin Cymru.

Mae’r afon, a fu unwaith yn brif gysylltiad y dref o hyd yn arddangos yr hen grefft o bysgota gyda’r  cwrwgl yn ystod misoedd yr haf.    Wrth gerdded ar hyd ei strydoedd troellog a phrysur gan ddilyn y ffyrdd a osodwyd ugain canrif yn nôl pryd yr oedd yn brif dref rhanbarthol Rhufeiniaid. Mil o flynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth y Normaniaid gorchfygol, unwaith eto, gydnabod pwysigrwydd ei safle strategol. Yma fe wnaeth brenhinoedd Lloegr eu prif dref ranbarthol a’i gweithredi o fewn Castell Caerfyrddin. 

Fe ysgrifennwyd yr enwog “Llyfr Du Caerfyrddin” ym Mhriordy Caerfyrddin, un o ddau dy mynachaidd enfawr, hwn yw’r llawysgrif hynaf yn yr iaith Gymraeg sy’n dal i fodoli. Mae trigolion y dre yn adlewyrchu’r gymysgedd amrywiol sydd yma, gan mae’r bobl sy’n gwneud y dre yr hyn yw hi heddiw, gyda’r defnydd naturiol  o’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae Caerfyrddin yn edrych yn ôl ar ei hanes gyda balchder, ond hefyd yn edrych ymlaen, gan ei bod yn dref fywiog  ac yn ganolfan siopa fodern. 

canllaw tref caerfyrddin

Facebook

Twitter

Instagram

Felodrom Caerfyrddin

Rhybydd Priefatrwydd Cyffredinol