Ymhellach i Ffwrdd

Mae’r dref wedi’i lleoli’n ddelfrydol ar gyfer archwilio gorllewin Cymru gyda llwybrau’n arwain i Sir Benfro a’r Fferi i Iwerddon, Ceredigion, Sir Frycheiniog ag Abertawe. Mae gan y Ganolfan Groeso yn Heol Awst daflenni ynghylch y rhan fwyaf o atyniadau. O fewn ychydig bellter i’r dref mae Dyffryn Tywi (A40 i’r dwyrain) yn cynnig casgliad hyfryd o barciau a gerddi hanesyddol yn ogystal â Gardd Fotanegol Genedlaethol Cymru yn Middleton Hall oddi ar yr A48. Bydd taith i fyny’r dyffryn i Landeilo yn cwmpasu trysorau megis Gerddi Hanesyddol Aberglasney, Castell, Ty a Pharc Dinefwr a Drenewydd (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Castell Dinefwr (Cadw), Gardd Goed Gelli Aur yn ogystal â Chastell Dryslwyn, a’r cyfan o fewn taith gron o 35 milltir.

Yn agosach fyth mae Rheilffordd Ager Gwili sy’n dilyn llwybr hen Reilffordd y Great Western wrth iddi igamogamu i fyny Dyffryn coediog a phrydferth Gwili. Mae trenau’n rhedeg yn ôl ag ymlaen o Orsaf Bronwydd (3 milltir i’r gogledd ddwyrain ar yr A484) rhwng mis Mai a mis Medi gyda digwyddiadau arbennig megis diwrnodau ‘Siôn Corn’ a ‘Tomos y Tanc’. Mae cynlluniau uchelgeisiol i ehangu’r rheilffordd i’r de i’r A40 ar gyrion y dref.

Yn Abergwili (2 filltir i’r dwyrain ar yr A40) ceir Amgueddfa’r Sir ym Mhalas yr Hen Esgob. Yn wreiddiol, eglwys golegaidd oedd hon a sefydlwyd yn 1283, ond fe’i trowyd yn Blas Esgob yn ystod y Diwygiad. Mae cartref yr Esgob presennol yn dal i fod yn Abergwili. Mae’r amgueddfa’n cynnwys arddangosiadau helaeth o ddeunyddiau Rhufeinig a chanoloesol a chasgliad o gofnodion Cristnogol cynnar. Ceir hefyd arddangosiadau cynhwysfawr o ddeunyddiau diweddarach.

Parc Gwledig Pen-bre (12 milltir i’r de ar yr A484) a Thraeth Cefn Sidan. Mae’r atyniadau yn y parc yn cynnwys llethr sgïo, rheilffordd fechan, rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau seiclo sy’n rhedeg drwy’r parc a Choedwig Pen-bre sy’n cysylltu â Llwybr Arfordir y Mileniwm. Gellir llogi beiciau ger y llethr sgïo. Ar y ffordd, fyddwch yn mynd heibio Canolfan ‘Pembrey Motor Sports’ gallwch daro heibio i Gastell Cydweli a’r Amgueddfa Diwydiant gyda’i pheirianwaith sy’n gweithio ar ager.

Saith milltir i’r de orllewin o Gaerfyrddin (B4312) mae pentref Llansteffan gyda’i draeth a’i dai o’r 18fed a’r 19eg ganrif. O Gastell Llansteffan, sy’n sefyll mewn bryngaer o’r Oes Haearn, ceir golygfeydd helaeth o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gyr. Os cerddwch i Wharley Point cewch eich gwobrwyo gan olygfeydd syfrdanol o arfordir Sir Gaerfyrddin.

Talacharn. Treflan brydferth yw Talacharn (13 milltir i’r de orllewin ar hyd yr A40 a’r A4066) gyda’i chastell trawiadol ac adeiladau da o’r 18fed ganrif. Bu unwaith yn gyrchfan i gapteiniaid môr hanner cyflog ac yn bentref pysgota. Bu Dylan Thomas yn byw yma ac yn ysgrifennu yn Nhy’r Cychod sydd mewn man delfrydol ger Afon Taf; bellach mae’r ty yn agored i’r cyhoedd. Y mae Castell Talacharn wedi ei adnewyddu ac yn agored i’r cyhoedd. Ychydig filltiroedd yn nes ymlaen ceirTraethau Pentywyn gyda’u 7 milltir o dywod, sy’n enwog am ymdrechion i sefydlu record cyflymder-tir a lle mae gan Yr Amgueddfa Cyflymder arddangosfeydd ac arddangosiadau ynghylch y digwyddiadau hynny.