Caiff cynghorwyr tref eu hethol gan y cyhoedd a gwasanaethant am gyfnod o bedair blynedd. Ar ôl etholiadau, mae cynghorau tref yn penodi maer. Y cynhelir yr etholiadau lleol ar y 3ydd o fai 2012.
Trefn Etholiadau
Cynhelir etholiadau arferol ar gyfer cynghorwyr lleol ar y Dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd. Ar gyfer y rhan fwyaf o gynghorau lleol yng Nghymru blwyddyn etholiad yw 2004, 2008 ac ati, ond os yw cynghorydd yr awdurdod unedol (h.g. Cyngor Sir Caerfyrddin) yn cael ei ethol mewn blwyddyn arall honno hefyd yw blwyddyn etholiad y cyngor lleol.
Mae ad-drefnu llywodraeth leol yn gallu newid diwrnod yr etholiad a blwyddyn yr etholiad o dan rai amgylchiadau.
Mae amserlen etholiadau fel a ganlyn:- Cyhoeddi hysbysiad yr etholiad. Heb fod yn hwyrach na’r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad.
- Cyflwyno Papurau Enwebu: Heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad.
- Cyhoeddi rhestr yr ymgeiswyr: Heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar yr ail ddiwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad.
- Cyflwyno hysbysiadau o dynnu ymgeisyddiaeth yn ôl: Heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar yr unfed diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad.
- Hysbysiad yr Etholiad: Heb fod yn hwyrach na’r chweched diwrnod cyn diwrnod yr etholiad.
- Pleidleisio: Rhwng 07:00 a 22:00 ar ddiwrnod yr etholiad.
- Wrth gyfrif yr amserlen ni chynhwysir Gwyliau Banc na phenwythnosau.
Proses enwebuRhaid i ddarpar ymgeisydd gyflwyno neu ddanfon trwy’r post i’r Swyddog Etholiadol (Y Prof Weithredwr, 1 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE) bapur enwebu dilys. Mae’r ffurflen hon ar gael gan y Swyddog. Rhaid rhoi cyfenw, enwau blaen, preswylfa a disgrifiad (os oes angen un) yr ymgeisydd a’i rif neu ei rhif a’i lythyren neu ei llythyren rhagddodol o’r gofrestr etholwyr gyfredol. Mae gan y Swyddog Etholiadol gopi o’r gofrestr hon, ac fel arfer mae gan glerc y cyngor gopi hefyd.
Rhaid i’r papur enwebu gynnwys hefyd yr un manylion ar gyfer cynigydd ac eilydd. Rhaid iddynt fod yn etholwyr ar gyfer yr ardal y mae’r ymgeisydd yn ceisio cael ei ethol neu ei hethol ynddi (h.y. y gymuned neu dref neu’r ward os yw wedi’i rhannu’n wardiau): mae’n rhaid iddynt ei lofnodi.
Y Swyddog Etholiadol a benodir gan awdurdod unedol yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal a threfnu etholiadau cynghorau cymuned a thref. Os ydych yn ystyried dod yn ymgeisydd ar gyfer etholiad efallai y dylech gysylltu â’r Swyddog Etholiadol i gael mwy o fanylion. Er mwyn cael mwy o fanylion am sut brofiad yw bod yn gynghorydd, mae croeso ichi gysylltu ag
Un Llais Cymru, neu Cyngor Tref Caerfyrddin ar 01267 235199.
Os ddaw sedd yn wag ynghanol tymor cyngor (neu os nad oes digon o ymgeiswyr i lenwi holl seddi’r cyngor adeg etholiad) bydd y cyngor yn cynnal isetholiad. O dan rai amgylchiadau gall y cyngor hefyd gyfethol aelodau ar y cyngor.
Cyfaddaswyd y wybodaeth uchod o gyhoeddiad gan Un Llais Cymru.