Y Clôs Mawr a’r Farchnad. Adeiladwyd y Neuadd Sirol yn y Clôs Mawr yn 1771 ar safle neuadd ganoloesol. Gynt roedd yn bileri agored, bellach mae’r adeilad yn gartref i Lysoedd yr Ynadon a’r Goron. Tu mewn, ceir paentiadau gwych, yn arbennig hwnnw o Syr Thomas Picton gan Brigstocke. Yn y sgwâr tu allan ceir Cofeb o Ryfel De Affrica 1906. Yn y pen draw, dewch at gyffordd a elwir yn Borth Tywyll, sy’n ein hatgoffa am un arall o byrth niferus y dref.
I’r dde drwy ganolfan siopa Stryd Goch ac i’r chwith wrth ‘Marks and Spencer’ i’r Farchnad Nwyddau sydd ar agor ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn, gyda rhai masnachwyr yn agor ar ddyddiau eraill ar hyd yr wythnos hefyd.
Heol Awst. Defnyddiwyd yr enw ‘Lammas’ i enwi caeau agored. Mae’n cyfeirio’n benodol at ardal a ddefnyddid at ddibenion pori agored ar ôl 1af Awst. Mae Heol Awst hefyd yn ein hatgoffa o hynny, a dyma faestref gyntaf Caerfyrddin. Roedd hi tu allan i fur y dref, ac yn cynnwys chwarter bwrgeiswyr Caerfyrddin Newydd yn 1268. Saif Cwrt y Brodyr Llwydion a siop Wilkinsons ar safle’r Brodyr Llwyd. Mae i Eglwys Saesneg y Bedyddwyr, a leolir gyferbyn â’r Boar’s Head, ffasâd clasurol gwych gan yr adeiladydd a phensaer lleol George Morgan (1868).