Lle a Phryd mae'r Cyngor yn Cyfarfod

Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn gwasanaethu Tref Caerfyrddin sydd â phoblogaeth breswyl o 13,200. Ar ôl cynnwys poblogaeth y myfyrwyr a’r datblygiadau preswyl mwy diweddar, mae’r ffigur hwn yn codi i rhyw 15,000. Poblogaeth y sir yn ôl cyfrifiad 2001 yw rhyw 173,000. Mae ardal ddaearyddol y dref yn ymestyn dros rhyw 2,064 hectar. Mae tua 48% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg ac mae gan y Cyngor Tref Bolisi Iaith Gymraeg. Mae swyddfa’r Cyngor yn Neuadd Ddinesig San Pedr ar Sgwâr Nott, Caerfyrddin, a hefyd mae staff gan y Cyngor yn y fynwent ac ym Mharc Caerfyrddin  ac yn y depo gwaith ym Mharc Waun Dew.

Sefydlwyd y Cyngor Tref yn ei ffurf bresennol yn 1974 ac etifeddodd rai o gyfrifoldebau ac eiddo hen Gyngor Bwrdeistref Caerfyrddin. Mae deunaw o gynghorwyr etholedig yn gwasanaethu ar y Cyngor Tref ac yn cynrychioli tair ward. Yn ward y gogledd mae saith aelod etholedig, yn ward y de mae pump aelod etholedig, ac yn ward y gorllewin mae chwech aelod etholedig. Mae’r Cyngor yn cael ei redeg gan dri phwyllgor, sef y Pwyllgor Dibenion Cyffredinol, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Rheoli. Mae pob pwyllgor yn adrodd i’r Cyngor llawn sy’n cwrdd ar y nos Fercher olaf o’r mis, ac eithrio mis Awst.

Ymhlith dyletswyddau’r Cyngor mae cynnal a marchnata Neuadd Ddinesig San Pedr a Pharc Caerfyrddin, cynnal adeiladau a thir glas pum parc y dref, cynnal-a-chadw cofebau’r dref a’r amffitheatr Rufeinig, darparu cyfleusterau claddu ym mynwent y dref, gofalu am welyau blodau a basgedi crog yn y dref, ar gylchfannau ac yn y mannau agored, cadw llwybrau cyhoeddus ar agor, darparu seddi cyhoeddus, meinciau a biniau, cyfrifoldeb am rai goleuadau llwybrau, a darparu goleuadau Nadolig yn y dref bob blwyddyn. Hefyd mae swyddfa Clerc y Dref yn cynnig gwasanaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol i Faer y Dref, y Dirprwy Faer ac i Siryf y Dref.

Ariannol

Ffurflen Flynyddol ar Gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31 Mawrth 2016
Datganiadau cyfrifyddu 2015-16
Datganiad Llywodraethu Blynyddol (Rhan 1)
Datganiad Llywodraethu Blynyddol (Rhan 2)
Tystysgrif Archwilio ac adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru
adroddiad archwilio mewnol blynyddol ar gyfer 1
adroddiad archwilio mewnol blynyddol ar gyfer 2