Neuadd Ddinesig San Pedr

St peter's civic hall

St peter's civic hall

St peter's civic hall

St peter's civic hall

Chairs in St peter's civic hall


Mae Cyngor y Dref yn berchen ar ac yn gweithredu Neuadd Ddinesig San Pedr, un o brif leoliadau yn y dref i gynnal cyngherddau, eisteddfodau, dramâu, boreau coffi, ciniawau canol dydd, cynadleddau, seminarau, cyfarfodydd, cyrsiau hyfforddi, fforymau, crefft, ffeiriau record a hen bethau, arddangosfeydd, arddangosiadau, gwyliau, sioeau flodau, cystadlaethau, cyflwyniadau, partïon, dawnsfeydd, disgos a phriodasau, ynghyd a seremonïau a chyflwyniadau dinesig a sesiynau rhoi gwaed.

Hurio:
am fanylion i hurio, costau ac argaeledd ffoniwch Eleri James ar 01267 235199.

Lleoliad: 1 Maes Nott, Caerfyrddin, SA31 1PG

Parcio: Dau faes parcio cyhoeddus gerllaw, gyda chilfach barcio i’r anabl:

- Maes Parcio San Pedr yn Stryd San Pedr (o fewn pellter cerdded gwastad)
- Maes Parcio San Ioan, Stryd San Ioan.

Er bod yna leoliadau theatr/celf mwy o faint yng Nghaerfyrddin, does yr un yn fwy cyraeddadwy i grwpiau cymunedol nag Neuadd Ddinesig San Pedr. Hwn yw’r lleoliad hyblyg mwyaf yng nghanol y dref, a all cymhwyso unrhyw drefniant o fyrddau a chadeiriau. Mae nifer o grwpiau bach sylfaen celf, e.e. grwpiau dramatig amaturaidd, yn cael eu denu i leoliad sydd yn fforddiadwy ac yn amlbwrpas. Mae Neuadd Ddinesig San Pedr hefyd wedi bod yn lleoliad i gwmnïau mwy o faint fel Cwmni Theatr Owen Money, Mike Doyle ac Arad Goch. Yn 2004 fe gafodd goleuadau llwyfan y neuadd ei uwchraddio ac y mae yna gynllun i wneud gwelliannau pellach i gyfleusterau’ neuadd.

Hanes Neuadd Ddinesig San Pedr: Cafodd Rhif 1, Maes Nott, ei feddiannu gan Blwyf San Pedr, cafodd ei drawsnewid i neuadd ac agorwyd Ty’r Eglwys yn 1916, am gost o dros £2,500. Yn 1964 fe ddarganfuwyd bod wal ôl a sylfeini Ty’r Eglwys yn anniogel, a chafodd yr adeilad ei chwalu ai ailadeiladu mewn dull cyfoes. Yn y 1970au fe werthwyd Ty Eglwys San Peter gan yr Eglwys yng Nghymru i’r Cyngor Dref, ac y mae Neuadd Ddinesig San Pedr yn parhau i fod yn amwynder canol dref.