Cynllun Basgedi Crog

hanging basket Scheme

Opticians

hanging basket

Am nifer o flynyddoedd mae Cyngor Tref Caerfyrddin wedi gweithio mewn cydweithrediad a busnesau lleol i arlwyo arddangosfa o fasgedi blodau haf ar hyd Tref Caerfyrddin. Mae llwyddiant y Cynllun Basgedi Crog yn helpu i sicrhau bod Caerfyrddin yn le deniadol i ymwelwyr a phreswylwyr.

Unwaith yn rhagor mae Cyngor y Dref yn gwahodd busnesau lleol i ymuno yn “Caerfyrddin yn ei Blodau” drwy brynu ac arddangos basgedi crog am bris gostyngol.

Y gost eleni yw £50.00 yr un, TAW yn gynwysedig, yn cynnwys staff Cyngor y Dref yn eu gosod yn gynnar ym mis Mehefin, dyfrhau, cynnal drwy gydol yr haf a symud y basgedi ar ddiwedd yr haf, ac felly yn sicrhau arddangosfa flodeuol hyd yn oed yn ystod misoedd cynhesaf yr haf. Mae bracedi ar gael hefyd os oes angen.

Mae Cyngor y Dref yn gwneud ymdrech i ddenu ymwelwyr i’r dref ac yn cydweithio gyda chymdeithasau lleol eraill i ddatblygu cyfres o wyliau drwy gydol y flwyddyn. Fel rhan o’r fenter yma mae Cyngor y Dref yn obeithiol bod cymaint o fusnesau lleol a phosib yn prynu basgedi i’w harddangos ar eu hadeiladau.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r Cynllun Basgedi Crog cysylltwch â:

Eleri James - 01267 235199
Cyngor Tref Caerfyrddin, Neuadd Ddinesig San Pedr, 1 Maes Nott, Caerfyrddin, SA31 1PG

Cynllun Basgedi Ffurflen Archebu.