Fe sefydlwyd Cyngor Dref Caerfyrddin, ar y ffurf bresennol, yn 1974 ac etifeddodd rhai o gyfrifoldebau ac eiddo'r Cyngor Bwrdeistref Caerfyrddin blaenorol. Mae yna ddeunaw aelod etholedig y cynrychioli tair Ward. Mae yna saith aelod etholedig yn Ward y Gogledd, pump aelod etholedig yn Ward y De a chwech aelod etholedig yn Ward y Gorllewin. Gall hanes y Cyngor Dref gael ei grynodebu fel y canlyn:
- tua 1300 - Caerfyrddin oedd y dref fwyaf yng Nghymru, gyda phoblogaeth o amgylch 1,000
- 1546 - Cafodd Caerfyrddin ei wneud yn Fwrdeistref Gorfforaethol ac apwyntiwyd Maer a Chyngor Cyffredin
- 1764 – Derbyniwyd Siartr Bwrdeistref Caerfyrddin oddi wrth George III, yn creu cyngor cyffredin o ugain aelod, i’w hethol gan y maer a’r bwrdeiswyr
- Erbyn 1790 - roedd y boblogaeth wedi cynyddu i rhwng 6,000 a 7,000 - fe ganiatawyd bwrdeistrefi fel Caerfyrddin rhywfaint o hunain lywodraeth a hawliau masnachu i gynnal ffeiriau a marchnadoedd. Fe sefydlwyd y bwrdeistrefi drwy siartr neu siartrau.
- 1835 - cafodd bwrdeistrefi o lywodraeth ei diwygio, gyda gwell cynghorau etholedig a rheoliadau ariannol
- 1875 – caniatawyd pwerau newydd i Gyngor Bwrdeistref Caerfyrddin (yn gyfartal i Gynghorau Dosbarth Trefol
- 1974 – daeth Cyngor Bwrdeistref Caerfyrddin yn Cyngor Tref Caerfyrddin
- 1974 – sefydlwyd Cyngor Dosbarth Caerfyrddin, yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1974 a chafodd ei ddiddymu yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol 1996
- 1974 – cafodd Cyngor Sir Dyfed ei greu
- 1996 – diddymwyd Cyngor Dosbarth Caerfyrddin
- 1996 - cafodd Cyngor Sir Caerfyrddin ei greu, yn dilyn ail-drefniant llywodraeth leol