Chwaraeon

Trac Beicio

Ym Mharc Caerfyrddin, mynediad oddi ar Lôn Morfa, mae yna felodrom ar oleddf (trac beicio) gyda llawr concrit a marciau cylchffordd. Mae’r trac wedi cael ei ddefnyddio am amryw o ddigwyddiadau, ac ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio gan Glwb Beicio Ieuenctid 'Towy Riders', clwb sydd newydd gael ei sefydlu ac sydd yn ymddangos i fod yn nerthol ym myd beicio ieuenctid cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor y Dref ar 01267 235199.

Hurio Beic

Mae cyfleusterau hurio beiciau yn agor ym Mharc Caerfyrddin, mynediad oddi ar Lôn Morfa. Gallwch alw yn y siop de yn y parc neu ffoniwch 07794 042186 am fwy o fanylion.

Gampfa Werdd

Mae yna gyfleusterau ffitrwydd awyr agored ym Mharc Caerfyrddin, mynediad oddi ar Lôn Morfa. Mae yna wyth gorsaf campfa ar gael, yn cynnig amryw ymarferion at bob gallu.

Ras y Maer

Mae Ras y Maer wedi ei chynnal yng Nghaerfyrddin yn ddi-fwlch ers 1982 ar benwythnos Y Pasg. Sefydlwyd y Ras gan Faer Tref Caerfyrddin y flwyddyn honno, y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, mewn cydweithrediad â'r Dr D. Hedydd Davies, ac yntau'n brofiadol iawn ei hun fel rhedwr ac wedi cynrychioli ei wlad llawer gwaith. Ers 2007 mae'r digwyddiad wedi cael ei drefnu, yn wirfoddol, gan yr athletwr Noelwyn Daniel.

Mae’r rasys yng Nghaerfyrddin wedi denu’r athletwyr gorau yng Nghymru, ac wedi annog plant y sir i gymryd lan athletau. Fe gynhaliwyd pump ar hugain pencampwriaeth ras ffordd mewn cysylltiad â Ras Ffordd Flynyddol Maer Caerfyrddin. Dros y cyfnod o 25 mlynedd, mae’r ras wedi bod o amryw bellter o Farathon Llawn, Hanner Farathon a 10 km cyn penderfynu ar y ffurf bresennol o 5km i oedolion a rasys arbennig i blant.

Un o brif amcanion y Ras yw godi arian tuag at achosion da yn lleol. Mae’r rhedwyr yn cael eu noddi ac fe gododd Dr Davies a’i gefnogwyr dros £120,000 i ysbytai lleol. Mae Noelwyn Daniel a'i dîm yn parhau i godi arian.

Mae’r enillwyr yn cael eu cyflwyno gyda tlws ond mae pob rhedwr yn derbyn medal.

Dros y blynyddoedd mae’r rasys wedi derbyn cefnogaeth a cydweithrediad gan Cyngor Sir Caerfyrddin, Chyngor Tref Caerfyrddin a nifer o gymdeithasau lleol. Mae’r rasys wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yn y dref a nawr yn parhau o dan cyfarwyddid yr athletwr, Mr Noelwyn Daniel, a Chyngor Tref Caerfyrddin.

Parc Chwarae Pêl Teras Russell

Mae yna barc chwarae pêl wedi ei ffensio yn Nheras Russell gyda phostiai gol pêl-droed a phostiai gôl pêl-fasged.