Bydd ardaloedd offer chwarae i blant yn ail agor yn ardal Cyngor Tref Caerfyrddin dydd Llun 20fed o Orffennaf, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Mae rhain yn cynnwys:
Parc Caerfyrddin
Parc Tre Ioan
Parc Penllwyn
Parc Hinds
Maes y Wennol
Allt Ioan
Bydd yr ardal sglefrio, y gamffa awyr agored a Felodrom Caerfyrddin hefyd yn agor ar yr un pryd. Mae offer glanweithio dwylo wedi’i osod ym mhob parc o eiddo’r Cyngor Tref. Cyfrifodeb y defnyddwyr yw cadw at reolau Llywodraeth Cymru ynglyn â pellhau cymdeithasol’.
Parc Caerfyrddin
Agorwyd Parc Caerfyrddin yn 1900 sy’n gartref i felodrom (trac beicio) cyntaf Cymru ac un o’r ychydig rai cynnar sydd wedi goroesi ac sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Mae Parc Caerfyrddin, gyda’i stand wreiddiol, bandstand, porthdy, gatiau a’r rheiliau mynedfa, wedi’i ddefnyddio at amrywiaeth eang o chwaraeon, eisteddfodau, adloniant, syrcas a chyngherddau.
Yn 2003 ffurfiodd y Cyngor Tref barc sglefyrddio ym mhen gogledd‑orllewinol y parc fel atyniad newydd i bobl ifanc. Mae’r Cyngor Tref yn rhedeg y Parc fel amwynder cyhoeddus, ac mae’n cynnwys offer chwarae a chyfleuster sglefyrddio. Codir tâl am y cyfleusterau eraill er mwyn adennill y costau blynyddol o redeg a chynnal y parc. Gellir cael manylion am y taliadau a godir am hurio’r parc ar 01267 235199.
Gwnaed gatiau’r fynedfa gan Coalbrookdale, ac maent ymhlith y gatiau gorau o’u cyfnod i oroesi yng Nghymru. Cafodd y gatiau eu hadnewyddu gan y Cyngor Tref yn y flwyddyn 2000, gyda chymorth grant a chyngor gan Cadw.