‘Crafwch y ddaear ac fe welwch Ymerodraeth’ medden nhw, ac mae hynny’n sicr yn wir am Gaerfyrddin. Tua 75 OC adeiladodd y Rhufeiniaid gaer a’i galw’n Moridunum o’r Geltaidd Frythoneg Moridunon (= caer y môr), a roddodd i ni’r enw Caerfyrddin. Lleolwyd y gaer yn ardal Heol y Brenin/Heol Spilman a chyn pen mawr o dro datblygodd ardal fasnachu tua’r dwyrain. Erbyn yr ail ganrif roedd hon wedi tyfu’n dref sylweddol, un o’r unig ddwy yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn civitas, prifddinas weinyddol Demetae’r Rhufeiniaid, o ble tarddodd enw teyrnas hynafol Dyfed. Trefnwyd Moridunum yn strydoedd gradellog ffurfiol wedi eu hamgylchu gan furiau a phyrth a oedd mor amlwg fel bod rhan ddwyreiniol Caerfyrddin heddiw yn cadw at y cyflyniad hwnnw. O’r awyr, gellir olrhain amddiffyniadau Moridunum ar ffurf nodweddiadol ‘cerdyn chwarae’, sy’n amgáu rhyw 30 erw (12.5 hectar). Ar ben dwyreiniol Heol y Prior saif amffitheatr sydd yn agored i’r cyhoedd.
Cymysgwyd y tameidiau o hanes sydd ar gael o’r ‘Oesoedd Tywyll’ â mytholeg a thraddodiad. Mae 600 mlynedd rhwng ymadawiad y Rhufeiniaid a dyfodiad y Normaniaid yn 1093. Adeg eu dyfodiad cymuned grefyddol Gymraeg oedd yn rheoli’r dref Rufeinig oedd bellach yn adfail. Roedd wedi ei chysegru i Deulyddog, a chyn hir dyma fyddai Priordy Sant Ioan. Tyfodd y cysylltiad rhwng Caerfyrddin â Myrddin ar ôl i Sieffre o Fynwy roi hygrededd iddo yn y 12fed ganrif yn Hanes Brenhinoedd Prydain. Mae Llyfr Du Caerfyrddin, a ysgrifennwyd yn y Priordy, yn cynnwys chwedlau Arthuraidd a chwedlau o’r Mabinogion gan gynnwys Myrddin, cymeriad sydd weithiau’n broffwyd ac weithiau’n ‘ddyn gwyllt o’r coed’. Roedd proffwydoliaethau Myrddin yn rhagfynegi dyfodiad un a fyddai’n arwain Prydain i orchfygu’r Eingl-sacsonaidd. Mae traddodiad Myrddin wedi ei wreiddio’n ddwfn yng Nghaerfyrddin - ‘caer’ Myrddin - er mai’r enw ‘Myrddin’ sy’n tarddu o Gaerfyrddin yn hytrach nag fel arall. Gydag amser, daeth gogwydd lleol i chwedlau Myrddin, gan gynnwys un yn ymwneud â’r Hen Dderwen, neu Dderwen Myrddin, coeden a safai ar un adeg yn Heol y Prior. Mae darnau o’r goeden yn cael eu cadw yng nghyntedd Neuadd Ddinesig San Pedr.
Llwytho i lawr:
Trywydd Tref Un - Trywydd Tref Dau - Trywydd Tref Tri - Taith yr Eisteddfod - Porthladd Caerfyrddin - TYr Hen Dderwen