Chwaraeon yng Nghaerfyrddin
Mae ‘Come on the Town’, ‘yr Athletic’ neu’r ‘Quins’ yn waediadau cyfarwydd yng Nghaerfyrddin o’r Hydref i’r Gwanwyn. Ond peidiwch â meddwl mai rygbi a phêl-droed yn unig sy’n mynd â hi yng Nghaerfyrddin!
Mae cricedwyr, yn arbennig o Glwb enwog y Crwydriaid, sydd â’i gartref yng Nghaeau’r Drindod, yn cael eu tro yn yr haf, tra bod yna hefyd gyfleusterau dan do ac awyr agored gwych i’r rheiny sy’n mwynhau bowls. Mae athletwyr a rhedwyr traws gwlad hefyd yn derbyn llawer o gefnogaeth. Mae timau dynion a menywod yn aml yn croesawu cystadleuwyr rhyngwladol ar drac rhedeg Tre Ioan.
Mae timau pêl-rwyd a hoci hefyd wedi bod yn amlwg iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn arbennig gyda’u cysylltiadau â’r Ganolfan Hamdden, nid lleiaf ar gyfer hyfforddiant ffitrwydd. Yn wir, mae cyfleusterau’r Ganolfan Hamdden wedi’u hestyn i’r eithaf i ddarparu ar gyfer sboncen, badminton, jiwdo, tennis bwrdd ac wrth gwrs nofio yn y pwll dan do. Mae cyrtiau tennis hefyd ar gael yn y Ganolfan.
Mae Ras Hwyl y Maer yn ddigwyddiad sefydlog a gynhelir ar Lun y Pasg, gyda chystadleuwyr o bob oedran a safon, rhai mewn gwisg cymeriad. Fe sefydlwyd a threfnwyd am 25 mlynedd gan Dr a Mrs Hedydd Davies, ac y mae’r digwyddiad yn dal i godi arian tuag at elusennau lleol.
Heb fod ymhell o ganol y dref ceir Parc helaeth Caerfyrddin. Mae’r trac seiclo concrid enwog yn amgylchu arena sydd wedi gweld gornestau gladiatoriaid rhwng dau glwb rygbi’r dref, yr ‘Athletic’ a’r ‘Quins’. Mae’r hen a’r ifanc fel ei gilydd yn mwynhau’r lonydd coed a’r parcdir agored gyda’i fan chwarae i blant a pharc sgrialu, y bandstand Fictoraidd, Meini’r Orsedd, gwelyau blodau a choed.
Maes chwarae arall sydd wedi’i ddatblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw Parc Waun Dew, cartref pêl-droed. Mae XI cyntaf Tref Caerfyrddin yn mwynhau’r cyfleusterau newydd yn y maes ac mae timau o bob oedran yn cael eu hannog i ddatblygu eu doniau yno. Mae mynediad i gerbydau a pharcio ceir i gael o Heol y Prior.
Addysg
Daeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i fodolaeth drwy uno Coleg Prifysgol y Drindod a Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, yn cynnig ystod o gyrsiau gradd ddwyieithog. Mae Coleg Sir Gâr ar ddau safle yn lleol ym Mhibwrlwyd a Heol Ffynnon Job ac mae’n darparu ystod o gyrsiau addysg bellach ac uwch.
Mae Uwchysgol Frenhines Elisabeth ac Ysgol Arbennig Rhydygors wedi’u lleoli yn Nhre Ioan, tra bod Ysgol Bro Myrddin ger Pibwrlwyd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion 11 i 18 mlwydd oed.
Ceir chwe ysgol gynradd fodern yn y dref. Mae Ysgol y Dderwen yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac mae gan Ysgol Gynradd Myrddin uned arbennig ynghlwm wrthi. Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yw Ysgol y Model tra bod Ysgol y Santes Fair yn ysgol Gatholig. Ysgol Gynradd Waun Dew ac Ysgol Gynradd Tre Ioan yw’r ddwy ysgol arall. Cynhelir ystod eang o ddosbarthiadau dydd a nos yn y Ganolfan Gymunedol yn Heol Ffwrnais ger Llyfrgell y Dref.
Diwylliant
Mae cangen Urdd Gobaith Cymru'r dref yn cyfarfod yn wythnosol yng Ngholeg y Drindod ac mae clwb ieuenctid wedi’i leoli yn y Ganolfan Gymunedol. Mae Opera Ieuenctid Cylch Caerfyrddin a Chymdeithas Opera Amatur Caerfyrddin yn cynnal sioeau cerdd ac operâu yn Theatr y Lyric bob blwyddyn. Mae Côr Meibion Caerfyrddin, Cantorion Myrddin, Côr Caerfyrddin, Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin, Côr Seingar, Côr Coleg y Drindod a Chôr Tonic yn ymarfer yn wythnosol ac yn perfformio yn y dref a ledled Cymru yn rheolaidd.
Mae cwmni drama ‘St. Peter’s Players’, Gyl Gomedi Cwlwm a ‘Just Good Friends’ yn denu tyrfa fawr. Mae nifer o gymdeithasau megis y Clwb Braslunio, Cymdeithas Ddinesig, Cymdeithas Hanes Teuluol Dyfed, Cyfeillion Amgueddfa Caerfyrddin, Cyfeillion Archifdy Sir Gar a llawer eraill yn cyfarfod yn rheolaidd yn y dref. Mae Oriel Myrddin yn gartref i arddangosfeydd celfyddyd gain a chrefftau ac mae Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili (gweler uchod).
Mae’r Llyfrgell yn fan cyfarfod poblogaidd ac mae’n cadw stoc fawr o lyfrau, cyfrifiaduron, arddangosfeydd amgueddfa ac adnoddau amrywiol eraill.
Cynhelir arddangosfeydd mewn neuadd ac ystafelloedd yn y Llyfrgell. Cynhelir digwyddiadau diwylliannol, boreau coffi, twrnameintiau darts, ffeiriau crefft a ffeiriau recordiau yn Neuadd Ddinesig San Pedr, Maes Nott. Hefyd fe gynhelir digwyddiadau diwylliannol yn Theatr y Lyric a Theatr Haliwell yng Ngholeg y Drindod. Mae’r Lyric hefyd yn cael ei ddefnyddio fel sinema gyda’r ffilmiau diweddaraf yn cael eu dangos yn ystod yr wythnos. Yn y flwyddyn 2000 agorwyd Parc Myrddin yn yr Hen Ysgol Ramadeg, Teras Waundew. Yma ceir pencadlys Gwasanaethau Diwylliannol Caerfyrddin, Gwasanaeth Archifau’r Sir a Chofrestrfa Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau.
Y Gymraeg
Mae tua hanner trigolion Caerfyrddin yn siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd, a llawer mwy yn ei deall. Cymraeg yw prif iaith y cymdeithasau sy’n cwmpasu’r dref. Mae’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn amlwg ym mywyd y dref yn gyffredinol a’r Gymraeg yw iaith nifer fawr o gapeli, eglwysi a sefydliadau eraill megis Merched y Wawr, Clwb Garddio a Chymdeithas Edward Llwyd.
Mae cymdeithasau Cymraeg yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau wythnosol. Sefydlwyd Mentrau Iaith Myrddin i gydlynu a hyrwyddo’r iaith drwy’r sir ac mae Menter Bro Myrddin yn cwmpasu’r dref a’r cyffiniau. Mae’r papur bro Cymraeg misol Cwlwm yn gwerthu dros 1,000 o gopïau yn y dref a’r cyffiniau.
Gefeillio
Mae Caerfyrddin wedi’i gefeillio â Lesneven yn Llydaw a gyda As Pontes yn Galicia. Mae disgyblion, grwpiau, teuluoedd ac unigolion yn mynd ar deithiau cyfnewid a drefnir gan Gymdeithas Gefeillio Caerfyrddin.
Mae Cwlwm Monduli, sy’n anfon cymorth yn rheolaidd i ardal Monduli yn Nhanzania, yn gymdeithas weithgar yn y dref.
Gwyliau
Ers 2006 mae bywyd masnachol a diwylliannol y dref wedi elwa trwy gyfres o ddigwyddiadau.
Busnes yng Nghaerfyrddin
Gyda holl gyfleusterau tref sirol, yr ardal wledig o’i hamgylch a’i chysylltiadau cludiant ardderchog, mae Caerfyrddin yn darparu amgylchedd delfrydol i fusnesau sy’n bodoli eisoes a busnesau newydd ddatblygu ac i’w gweithwyr cyflog fyw. Mae newidiadau i’r diwydiant amaeth ac i’r economi leol wedi peri i’r Undeb Ewropeaidd benodi gorllewin Cymru yn ardal Amcan Un. Gan fod Caerfyrddin yng nghanol yr ardal hon mae’n gyfle unigryw iddi elwa o ystod eang o fentrau dan y cynllun sydd yn help i wella rhagor ar yr isadeiledd lleol a chynyddu’r potensial ar gyfer busnes yn yr ardal. Mae Siambr Fasnach Caerfyrddin yn cynhyrchiol y gymuned fusnes ac yn hybu masnach yn y dref: http://www.carmarthenchamber.co.uk/
Mae pwysigrwydd hanesyddol ffermio yn y sir eisoes wedi’i adlewyrchu yn y mentrau i ddatblygu’r diwydiant bwyd. Mae cwmnïau gweithgynhyrchu a chwmnïau eraill wedi’u denu i’r sir o bob rhan o’r byd. Mae’r atyniadau i ymwelwyr a ddisgrifiwyd uchod yn rhoi rhyw arwydd o’r potensial lleol ar gyfer busnesau yn sectorau twristiaeth a’r gwasanaethau.