Saith milltir i’r de orllewin o Gaerfyrddin (B4312) mae pentref Llansteffan gyda’i draeth a’i dai o’r 18fed a’r 19eg ganrif. O Gastell Llansteffan, sy’n sefyll mewn bryngaer o’r Oes Haearn, ceir golygfeydd helaeth o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gyr. Os cerddwch i Wharley Point cewch eich gwobrwyo gan olygfeydd syfrdanol o arfordir Sir Gaerfyrddin.
Talacharn. Treflan brydferth yw Talacharn (13 milltir i’r de orllewin ar hyd yr A40 a’r A4066) gyda’i chastell trawiadol ac adeiladau da o’r 18fed ganrif. Bu unwaith yn gyrchfan i gapteiniaid môr hanner cyflog ac yn bentref pysgota. Bu Dylan Thomas yn byw yma ac yn ysgrifennu yn Nhy’r Cychod sydd mewn man delfrydol ger Afon Taf; bellach mae’r ty yn agored i’r cyhoedd. Y mae Castell Talacharn wedi ei adnewyddu ac yn agored i’r cyhoedd. Ychydig filltiroedd yn nes ymlaen ceir Traethau Pentywyn gyda’u 7 milltir o dywod, sy’n enwog am ymdrechion i sefydlu record cyflymder-tir a lle mae gan Yr Amgueddfa Cyflymder arddangosfeydd ac arddangosiadau ynghylch y digwyddiadau hynny.
Parc Gwledig Pen-bre (12 milltir i’r de ar yr A484) a
Thraeth Cefn Sidan. Mae’r atyniadau yn y parc yn cynnwys llethr sgïo, rheilffordd fechan, rhwydwaith o lwybrau troed a llwybrau seiclo sy’n rhedeg drwy’r parc a
Choedwig Pen-bre sy’n cysylltu â
Llwybr Arfordir y Mileniwm. Gellir llogi beiciau ger y llethr sgïo. Ar y ffordd, fyddwch yn mynd heibio Canolfan ‘Pembrey Motor Sports’ gallwch daro heibio i
Gastell Cydweli a’r
Amgueddfa Diwydiant gyda’i pheirianwaith sy’n gweithio ar ager.
Mae’r dref wedi’i lleoli’n ddelfrydol ar gyfer archwilio gorllewin Cymru gyda llwybrau’n arwain i Sir Benfro a’r Fferi i Iwerddon, Ceredigion, Sir Frycheiniog ag Abertawe. Mae gan y
Ganolfan Groeso yn Maes Nott daflenni ynghylch y rhan fwyaf o atyniadau. O fewn ychydig bellter i’r dref mae Dyffryn Tywi (A40 i’r dwyrain) yn cynnig casgliad hyfryd o barciau a gerddi hanesyddol yn ogystal â
Gardd Fotanegol Genedlaethol Cymru yn Middleton Hall oddi ar yr A48. Bydd taith i fyny’r dyffryn i Landeilo yn cwmpasu trysorau megis
Gerddi Hanesyddol Aberglasney,
Castell, Ty a Pharc Dinefwr a Drenewydd (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Castell Dinefwr (Cadw),
Gardd Goed Gelli Aur yn ogystal â
Chastell Dryslwyn, a’r cyfan o fewn taith gron o 35 milltir.