Caerfyrddin - Cyfleoedd Siopa

Llwyddodd Caerfyrddin i osgoi’r ailddatblygu a effeithiodd ar lawer o fannau eraill yn y 1960au a’r 70au, ac y mae wedi cadw’r farchnad darpariaethau nodedig a'r siopau llai o faint sydd yn denu siopwyr o ordal eang. Mae modd I siopwyr hurio sgwteri a chadeiriau olwyn o ganolfan ‘shopmobility’ ar lawr isaf y maes parcio aml lawr yn Rhodfa’r Santes Catrin, o Ddydd Llun tan Ddydd Sadwrn, 10.00 yb tan 4.00 yp.

Mae’r dref wedi datblygu i fod yn ganolfan siopa ffyniannus ac o ganlyniad mae wedi cadw llawer o gymeriad cyfnodau cynharach.

Mae gan Dref Caerfyrddin gyfoeth o siopau annibynnol a rhyngwladol, heb sôn am ei marchnad enwog. Ar Stryd y Brenin, Heol Awst, Heol Las, Maes Nott a’r Clos Mawr mae yna ddigonedd o fasnachwyr annibynnol a chanddynt doreth o siopau bach moethus, siopau arbenigol a chyflenwyr bwyd lleol. Mae Stryd y Brenin wedi sefydlu ei hun yn ddiweddar yn ganolbwynt ar gyfer celf a chrefft wreiddiol.

Mae’r farchnad dan do yn un o rai hynaf y DU, gan ddenu siopwyr o ddydd Llun hyd at ddydd Sadwrn. Mae yma farchnad stryd sy’n llawn bwrlwm ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn.

Mae tair ardal wedi eu hail-ddatblygu: Cafodd ardal Y Stryd Goch ei ailddatblygu yn y 1970au i gymhwyso prif adwerthwyr fel 'Marks and Spencer'. Cafodd y tir rhwng Heol Awst a Pharc y Brodyr ei ddatblygu fel storfa - nawr yn 'Wilkinsons'. Agorwyd Rhodfa'r Brodyr Llwyd yn 1998 - yn gartref i bump ar hugain o siopau gan gynnwys nifer o enwau’r stryd fawr fel 'Argos' a 'TKMax', a chafodd ei ail-lansio fel Rhodfa Myrddin yn 2010.

Hefyd yn 2010 agorwyd ardal siopa canol tref newydd (Rhodfa'r Santes Catrin) ar gyn safle'r mart, gyda siopau mawr fel 'Debenhams' a 'Next', maes parcio aml lawr a sinema gyntaf yn Ewrop iI fod yn hollol ddigidol a 3D.

Mae’r cymysgwch o farchnad draddodiadol, siopau annibynnol lleol, bwytai a prif gyfansawdd sydd yn cynnig fwy o ddewis na lawer i dref arall debyg o ran ei phoblogaeth. Mae Caerfyrddin yn dref Masnach Deg.
llamas street
Heola
Shop Street
King Street