Pob blwyddyn y mae Cyngor y Dref yn trefnu gweithgareddau ac adloniant i ddathlu dydd Gwyl Dewi Sant.
Mae’r digwyddiad yn cael ei lwyfannu mewn partneriaeth gydag ysgolion lleol a gyda chymorth oddi wrth Gyngor Sir Caerfyrddin a Menter Gorllewin Sir Gâr. Mewn blwyddyn nodweddiadol bydd y digwyddiad yn cynnwys gwaith corawl, adroddiadau, dawnsio’r glocsen a pherfformiadau ar y delyn.
At hynny, bydd diddanwyr ar stilts yn crwydro’r strydoedd. Un nodwedd arbennig ar y dydd yw trosglwyddo neges o Ewyllys Da oddi wrth blant Cymru at y byd, wrth i’r neges basio drwy Gaerfyrddin ar ei ffordd i Gaerdydd.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01267 235199.