‘GWYL Y DAFFODIL’


Mae Cyngor Tref Caerfyrddin yn arwain cynlluniau ar gyfer digwyddiad arbennig i Gaerfyrddin a fydd yn denu pobl leol ac ymwelwyr i'r dref, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd yr wyl cennin pedr yn gweld miloedd o gennin pedr yn cael eu plannu ar draws y dref a’r cyffiniau. Bydd digwyddiad hefyd yn y Gwanwyn tra bod y blodau yn eu blodau i ddenu unigolion a theuluoedd i’r dref. Bydd y plannu yn cael ei wneud mewn lleoliadau ychwanegol bob blwyddyn i gael mwy o effaith a chynyddu diddordeb yn yr wyl.

Ymhlith y partneriaid sy’n gweithio ar y prosiect hwn gyda chyngor y dref mae BID Caerfyrddin, Menter Gorllewin Sir Gâr, Eglwys San Pedr ac Eglwys Crist, Caerfyrddin Gyda’n Gilydd, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Bord Gron Caerfyrddin a Chyngor Sir Caerfyrddin. Bydd cyfle i bawb gymryd rhan a gwahoddir aelodau’r cyhoedd i fynychu gardd Eglwys Crist yn yr hydref (cyhoeddir dyddiadau yn fuan) a dod â rhywbeth i’w blannu. Bydd croeso arbennig i gynwysyddion ar thema Gymreig a / neu Gaerfyrddin ond peidiwch â phrynu unrhyw beth gan ein bod am ailddefnyddio hen eitemau i wneud y digwyddiad hwn mor gynaliadwy â phosibl.

Bydd ysgolion hefyd yn cymryd rhan fel rhan o brosiect newydd ‘Tyfu’ a fydd yn darparu bylbiau cennin pedr i bob disgybl eu plannu.

Bydd y prif ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod ar y 23ain o Fawrth 2024, a fydd yn cyd-fynd â blodeuo’r blodau. Cadwch lygad ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cyngor Tref Caerfyrddin a diweddariadau yn y wasg i ddarganfod mwy.

Gellir cysylltu â Chyngor Tref Caerfyrddin drwy ffonio 01267 235199 neu drwy e-bost yn jafox@carmarthentowncouncil.gov.uk Facebook - Twitter - Instagram

Dewch i flodeuo Caerfyrddin y gwanwyn nesaf!

Emma Smith
Clerc y Dref
Cyngor Tref Caerfyrddin
22 Medi 2023