Cynllun Iaith Gymraeg

Cyngor Tref Caerfyrddin
a baratowyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993
Derbyniodd y Cynllun gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 14(1) y Ddeddf ar 21 Gorffennaf 1997
BWRDD YR IAITH GYMRAEG
GORFFENNAF / JULY 1997 (ADOLYGWYD YN 2008)

CYNNWYS

A DATGANIAD
B CYFLWYNIAD i Gyngor Tref Caerfyrddin
C Y CYNLLUN IAITH
1. Cynllunio a Chyflwyno Gwasanaethau
2. Ymdrin â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg
3. Wyneb cyhoeddus y Cyngor
4. Gweithredu a Monitro’r Cynllun

A. DATGANIAD
 

Mae Cyngor Tref Caerfyrddin wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y cyngor yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethu i’r cyhoedd yng Nghymru.

Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall aelodau’r cyhoedd fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith, mai mater o arfer day n hytrach na goddefgarwch yw eu galluogi i ddefnyddio’u dewis iaith ac y gall gwadu’r hawl i ddefnyddio eu dewis iaith eu rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol. Bydd y Cyngor felly yn cynnig i’r cyhoedd yr hawl i ddewis pa iaith i’w defnyddio wrth ymdrin ag ef.

Nod y Cyngor yw:

  • galluogi pawb sy’n derbyn neu’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor neu’n cyfrannu at y broses ddemocrataidd i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl eu dewis personol;
  • hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym mywyd yr ardal y mae’n ei gwasanaethu;
  • hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan gyrff cyhoeddus eraill sy’n ymwneud â’r Cyngor a chefnogi ac hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan sefydliadau a busnesau sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd yn yr ardal a wasanaethir gan y Cyngor.
B. CYFLWYNIAD I GYNGOR TREF CAERFYRDDIN

Mae’r Cyngor yn gwasanaethu Tref Caerfyrddin sy’n ardal o ryw 2,064 o hectarau. Mae rhyw 48% o’r boblogaeth o 12,240 yn siaradwyr Cymraeg. Lleolir swyddfeydd y Cyngor yn Neuadd Ddinesig San Pedr, Maes Nott, Caerfyrddin a lleolir staff hefyd ym Mharciau a Mynwent y dref.

Mae’r Cyngor yn cynnwys 18 o aelodau etholedig ac yn cyflogi 16 o staff (ynghyd â staff dros dro ychwanegol yn ystod misoedd yr Haf). Clerc y Dref yw pennaeth gwasanaeth taledig yr Awdurdod.

Mae dyletswyddau’r Cyngor yn cynnwys rheoli, cynnal ac hyrwyddo Neuadd Ddinesig San Pedr; cynnal a chadw adeiladau a thir gwyrdd yn y pump arc yn y dref; darparu a chynnal offer chwarae; cynnal a chadw’r Amffitheatr Rhufeinig a Chofgolofnau’r dref; cynnal a chadw clociau cyhoeddus; darparu a chynnal cyfleusterau claddedigaeth a’r Capel yn y Fynwent; plannu a gofalu am y blodau a’r basgedi crog yn y dref, a’r blodau ar gylchfannau a thir agored; clirio llwybrau cyhoeddus; darparu, lle y cytunwyd, seddau, meinciau a biniau ysbwriel cyhoeddus; cyfrifoldeb am oleuo’r strydoedd, a darparu’r goleuadau Nadolig yn y dref bob blwyddyn.

Mae’r Cyngor hefyd yn cyfrannu’n ariannol tuag at Ganolfan Hamdden y dref ac Oriel Myrddin, ac yn rhoddi cymorthdaliadau i fudiadau gwirfoddol yn y dref. Yn ogystal mae’r swyddfa yn darparu y gwasanaeth gweinyddol ac ysgrifenyddol ar gyfer y swyddi o Faer, Dirprwy Faer a Siryf y dref.

Yn y gorffennol bu’r cyngor Tref yn ymgymryd â gwaith ar gyfer y cyn Gyngor Sir Dyfed a’r cyn Gyngor Dosbarth Caerfyrddin ar sail ‘asiantaeth’. Gobeithir y bydd y traddodiad hwyn o gydweithredu yn parhau o dan y Cyngor Sir Gaerfyrddin newydd.

C. Y CYNLLUN IAITH 

1. CYNLLUNIO A CHYFLWYNO GWASANAETHAU
 

1.1 Polisïau a Mentrau newydd

1.1.1 Bydd y Cyngor yn asesu oblygiadau ieithyddol unrhyw bolisïau a mentrau newydd wrth eu llunio.
1.1.2 Bydd polisïau a mentrau newydd yn hyrwyddo ac yn hwyluso defnyddio’r Gymraeg pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl ac yn symud y Cyngor yn nes at weithredu’r egwyddor o gydraddoldeb yn llawn bob cyfle a ddaw.
1.1.3 Bydd unrhyw bolisïau a mentrau newydd yn gyson â’r cynllun.
1.1.4 Ymgynghorir â Bwrdd yr iaith Gymraeg ymlaen llaw ynglyn â bwriadau a fydd yn effeithio ar y cynllun, neu a fydd yn effeithio ar gynlluniau sefydliadau eraill. Ni newidir y cynllun heb gytundeb y Bwrdd.
1.1.5 Bydd y sawl sy’n ymwneud â llunio polisi yn ymwybodol o’r cynllun ac o gyfrifoldebau’r Cyngor o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.
1.1.6 Bydd y mesurau a gynhwysir yn y cynllun yn cael eu gweithredu wrth roi polisïau a mentrau newydd ar waith.

1.2 Cyflwyno Gwasanaethau

1.2.1 Anela’r Cyngor at sicrhau bod pob agwedd ar ei wasanaeth i’r cyhoedd yng Nghymru ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg drwy’r dulliau canlynol:

  • mabwysiadu gweithdrefnau a fydd yn hwyluso darparu gwasanaethau yn yr iaith a ddewisir gan y sawl sy’n derbyn y gwasanaeth;
  • cynnal gwasanaeth cyfieithu yn y swyddfa a chyflogi cyfieithwyr allanol os oes angen.

1.2.2 Bydd y mesurau a gynhwysir yn y cynllun yn berthnasol i’r holl wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor i’r cyhoedd.
1.2.3 Bydd aelodau’r staff yn llawn ymwybodol o ofynion y cynllun a bydd Clerc y Dref yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ofynion yn cael eu hadlewyrchu yn y gwaith a wneir gan staff y Cyngor.

1.3 Safonau Ansawdd


1.3.1 Bydd y gwasanaethau a ddarperir yn y Gymraeg a’r Saesneg o’r un safon uchel. Bydd y Cyngor yn sicrhau ei fod yn darparu safon cyson o wasanaeth yn Gymraeg ymhob maes o’i weithgaredd.
1.3.2 Bydd ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth o’r un safon uchel yn y ddwy iaith yn cael ei ddatgan mewn dogfennau megis yr Arweiniad i Dref Caerfyrddin.
1.3.3 Bydd safon y gwasanaethau a gyflwynir yn y ddwy iaith yn cydymffurfio â’r ymrwymiad presennol i safon a phrydlondeb wrth ddelio gyda busnes y Cyngor.
1.3.4 Bydd y safonau a gymhwysir i’r gwasanaeth Cymraeg a’u gweithredu, yn cael eu monitro’n rheolaidd.

2. YMDRIN Â’R CYHOEDD SY’N SIARAD CYMRAEG

2.1 Gohebu Ysgrifenedig ac Electronig

2.1.1 Bydd y Cyngor yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig ac electronig yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
2.1.2 Ni fydd gohebu drwy gyfrwng y Gymraeg ynddo ei hun yn achosi unrhyw oedi.
2.1.3 Bydd pob gohebiaeth ysgrifenedig ac electronig â’r Cyngor sydd angen ei ateb yn derbyn ateb wedi ei lofnodi yn iaith y llythyr gwreiddiol.
2.1.4 Bydd pob gohebiaeth ysgrifenedig ac electronig yn dilyn sgwrs yn Gymraeg, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, yn Gymraeg, os nad yw’r aelod o’r cyhoedd yn dynodi fel arall.
2.1.5 Bydd gohebiaeth ysgrifenedig ac electronig yn dilyn cyfarfod lle sefydlwyd mai’r Gymraeg yw dewis iaith y person yn Gymraeg, er ei bod yn bosibl nad y Gymraeg oedd iaith y cyfarfod.
2.1.6 Dechreuir pob gohebiaeth ysgrifenedig ac electronig ag aelod o’r cyhoedd yn ei dewis/ddewis iaith lle bo hynny’n hysbys. Os nad yw’n hysbys bydd gohebiaeth ddechreuol oddi wrth y Cyngor yn ddwyieithog.
2.1.7 Bydd pob cylchlythyr a llythyr safonol i’r cyhoedd yn ddwyieithog.
2.1.8 Bydd papur swyddogol y Cyngor yn cynnwys datganiad yn y ddwy iaith yn ei gwneud hi’n glir y croesewir gohebiaeth yn y naill iaith neu’r llall.
2.1.9 Cyfieithydd y Cyngor fydd yn gyfrifol am ansawdd y Gymraeg ysgrifenedig mewn gohebiaeth a ddarperir gan y Cyngor.
2.1.10 Clerc y Dref fydd yn gyfrifol am drefnu cyfieithu gohebiaeth.

2.2 Cyfathrebu dros y ffôn

2.2.1 Bydd y Cyngor yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
2.2.2 Bydd pob galwad o’r tu allan yn derbyn cyfarchiad dwyieithog.
2.2.3 Bydd y sawl sy’n ateb y ffôn yn gallu ymdrin â galwadau yn y ddwy iaith. Hyd nes bod hynny wedi ei gyflawni bydd staff di-Gymraeg yn esbonio eu sefyllfa’n gwrtais ac yn cynnig trosglwyddo’r galwr i siaradwr Cymraeg. Os nad yw siaradwr Cymraeg ar gael, bydd y person sy’n derbyn yr alwad yn nodi enw a rhif y galwr ac yn sicrhau bod siaradwr Cymraeg yn galw’n ôl mor gynted â phosib.
2.2.4 Darperir canllawiau ar weithdrefnau cywir i aelodau priodol o’r staff.
2.2.5 Bydd unrhyw beiriannau ateb a osodir gan y Cyngor yn trosglwyddo negeseuon dwyieithog.

2.3 Cyfarfodydd Cyhoeddus

2.3.1 Croesewir cyfraniadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg mewn cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir gan neu ar ran y Cyngor. Gwneir hyn yn glir yn y papurau sy’n galw neu’n hysbysebu’r cyfarfod.
2.3.2 Darperir adnoddau cyfieithu ar gyfer y di-Gymraeg ym mhob cyfarfod cyhoeddus a drefnir gan neu ar ran y Cyngor.
2.3.3 Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn hurio offer cyfieithu ar-y-pryd oddi wrth Gyngor Sir Gaerfyrddin I’w ddefnyddio yn Neuadd Ddinesig San Pedr. Gobeithia’r Cyngor adnewyddu ei offer ei hun (sydd wedi dyddio bellach) maes o law.
2.3.4 Bydd pob hysbysrwydd am gyfarfod cyhoeddus yn ddwyieithog.
2.3.5 Bydd o leiaf y Cadeirydd neu un siaradwr allweddol yn gwneud defnydd o’r Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir gan neu ar ran y Cyngor lle y darperir cyfleusterau cyfieithu ar-y-pryd.
2.3.6 Bydd unrhyw wybodaeth ysgrifenedig sy’n cael ei defnyddio mewn cyfarfod, megis sleidiau uwch-daflunydd, taflenni neu gapsiynau, yn ddwyieithog.
2.3.7 Bydd siaradwyr Cymraeg yn bresennol i groesawu’r cyhoedd ac i ddelio gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau.
2.3.8 Pe bai’r cyngor yn prynu offer cyfieithu newydd bydd yr offer hwn ar gael i’w hurio gan fudiadau eraill yn y dref.

2.4 Cyfarfodydd eraill gyda’r Cyhoedd


2.4.1 Bydd y Cyngor yn croesawu cyfarfodydd gyda’r cyhoedd naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.
2.4.2 Dylai pob aelod o’r staff sy’n dod i gysylltiad ag aelodau’r cyhoedd dros y cownter fedru gweithredu drwy gyfrwng y ddwy iaith. Nes bod hyn yn cael ei gyflawni, bydd staff di-gymraeg yn esbonio eu sefyllfa’n gwrtais ac yn cynnig nôl siaradwr Cymraeg. Os nad yw siaradwr Cymraeg ar gael gwahoddir y person i drafod y mater yn Saesneg neu awgrymir iddo/iddi fod siaradwr Cymraeg yn cysylltu age f/hi cyn gynted â phosibl.
2.4.3 Cyfarfodydd yn adeiladau’r Cyngor: Os yw’n hysbys mai’r Gymraeg yw dewis iaith y person, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau y cyfarfodir â’r person gan swyddog dwyieithog.

2.5 Ffyrdd eraill o ddelio â’r Cyhoedd

2.5.1 Nid yw’r Cyngor ar hyn o bryd yn cysylltu â’r cyhoedd drwy gyfrifiaduron, ond pe bai hynny yn digwydd yn y dyfodol, cydymffurfir â’r mesurau a osodwyd o dan Gohebu Ysgrifenedig.
2.5.2 Bydd y systemau cyfarch cyhoeddus a ddefnyddir gan neu ar ran y Cyngor ar ei safleoedd neu mewn mannau eraill yn cydymffurfio â'r cynllun.

3. WYNEB CYHOEDDUS Y CYNGOR


3.1 Hunaniaeth Gorfforaethol

3.1.1 Enw’r Cyngor yw Cyngor Tref Caerfyrddin/Carmarthen Town Council.
3.1.2 Bydd y Cyngor yn mabwysiadu delwedd gorfforaethol gwbl ddwyieithog.
3.1.3 Bydd enw’r Cyngor yn ymddangos yn y ddwy iaith ar bob arwydd allanol a mewnol ym mhob man, ar gyhoeddiadau, ac ar gerbydau ac adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor.
3.1.4 Bydd pob pen llythyr, papur ffacs a slip cyfarch swyddogol yn ddwyieithog.
3.1.5 Mae Arfbais y Cyngor yn cynnwys arwyddair yn y Gymraeg yn unig.

3.2 Arwyddion

3.2.1 Bydd pob arwydd gwybodaeth a godir am y tro cyntaf neu yn lle hen arwydd ar eiddo’r Cyngor, gan gynnwys mannau mewnol sy’n caniatáu mynediad i aelodau’r cyhoedd, yn ddwyieithog, ac felly hefyd unrhyw arwyddion gwybodaeth gyhoeddus eraill y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanynt. Bydd y ddwy iaith yn ymddangos ochr-yn-ochr ond bo hyn yn anymarferol bydd y Gymraeg yn ymddangos cyntaf.
3.2.2 Bydd maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd testun ar arwyddion yn parchu’r egwyddor o gydraddoldeb.
3.2.3 Pe bai arwyddion ar wahân yn cael eu defnyddio ar gyfer y ddwy iaith, byddant yn ymddangos gyda’i gilydd ac yn gyfartal o ran ffurf, maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd.
3.2.4 Pan yr ymgynghorir â’r Cyngor ynglyn ag arwyddion priffordd a gwybodaeth gyhoeddus bydd y Cyngor yn cefnogi’r egwyddor y dylent fod yn gwbl ddwyieithog.
3.2.5 Pan yr ymgynghorir â’r Cyngor ynglyn ag enwau ar gyfer datblygiadau newydd, bydd yn cefnogi’r egwyddor y mabwysiedir enwau Cymraeg. Lle mai dim ond sillafu sy’n gwahaniaethu rhwyn y fersiwn Gymraeg a’r Saesneg bydd y Cyngor yn cefnogi mabwysiadu’r ffurf Gymraeg.

3.3 Cyhoeddi ac Argraffu Deunydd

3.3.1 Bydd pob deunydd a anelir at y cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog fel rheol gyda’r ddwy iaith yn ymddangos yn yr un ddogfen. Argraffir y ddwy fersiwn ochr-yn-ochr lle bo’n bosibl er mwyn hwyluso croesgyfeirio.
3.3.2 Os bydd fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar wahân, bydd y ddwy fersiwn yn ymddangos yr un pryd, yn cael eu dosbarthu gyda’i gilydd a byddant yr un mor hawdd i’w cael.
3.3.3 Ni fydd pris gwerthu dogfen ddwyieithog yn uwch na phris yr un ddogfen mewn un iaith.
3.3.4 Ni fydd pris gwerthu’r fersiwn Gymraeg yn uwch na phris y fersiwn Saesneg.
3.3.5 Bydd Agendâu a Chofnodion cyfarfodydd o’r Cyngor llawn, a cofnodion y Pwyllgor Dibenion cyffredinol, Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Rheoli, yn cael eu paratoi’n ddwyieithog.
3.3.6 Gall Agendâu Pwyllgorau eraill, ac Adroddiadau a gwybodaeth gefndir arall a baratoir yn y swyddfa gan swyddogion neu Gynghorwyr, fod naill ai yn y Saesneg, yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
3.3.7 Os derbynnir cais gan aelod o’r cyhoedd am gyfieithiad o destun o’r math a baratowyd yn y Gymraeg yn unig neu yn y Saesneg yn unig, bydd y cyfieithydd yn ei ddarparu.
3.3.8 Bydd pob dogfen ar gyfer ei chyhoeddi yn cael ei chyfieithu a’i chywiro gan y cyfieithydd neu gan gyfieithydd allanol os oes angen.
3.3.9 Bydd unrhyw fath arall o ddeunydd printiedig, ar bapur neu ar unrhyw ddeunydd arall, e.e. gwahoddiadau, posteri, cardiau, rhaglenni, mapiau ac yn y blaen, yn ddwyieithog.
3.3.10 Bydd Canllawiau Dylunio Dwyieithog y Bwrdd Iaith ar gael i’r sawl sy’n ymwneud â chyhoeddiadau.

3.4 Ffurflenni a deunydd esboniadol

3.4.1 Bydd pob ffurflen a deunydd esboniadol a gyhoeddir gan y Cyngor at ddefnydd y choedd yng Nghymru yn ddwyieithog gyda’r ddwy fersiwn yn ffurfio un ddogfen.
3.4.2 Rhoddir cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar y gweithdrefnau cywir i staff sy’n cynllunio a chynhyrchu ffurflenni.

3.5 Datganiadau i’r Wasg

3.5.1 Bydd pob datganiad i’r wasg ac i’r cyfryngau yn ddwyieithog.
3.5.2 Bydd pob datganiad yn cynnwys enw cyswllt ar gyfer cyfweliadau trwy gyfrwng y Gymraeg.

3.6 Gweithgareddau Hysbysebu a Chyhoeddusrwydd

3.6.1 Cynhelir gweithgareddau hysbysebu a chyhoeddusrwydd yn ddwyieithog mewn modd sy’n trin y ddwy iaith ar sail eu bod yn gyfartal.
3.6.2 Bydd pob deunydd cyhoeddusrwydd yn ddwyieithog.
3.6.3 Bydd unrhyw ymgyrch farchnata neu hysbysebu a drefnir gan neu ar ran y Cyngor drwy’r Wasg, teledu, radio ac yn y blaen yn gwbl ddwyieithog.
3.6.4 Bydd llenyddiaeth hyrwyddo a anelir at y farchnad twristiaeth yn ddwyieithog.
3.6.5 Bydd posteri a byrddau gwybodaeth yn ddwyieithog.
3.6.6 Bydd unrhyw arolygon cyhoeddus a drefnir gan y Cyngor yn ddwyieithog yn ogystal ag unrhyw gyfryngau ymateb i ymgyrchoedd hyrwyddo gwybodaeth.
3.6.7 Bydd unrhyw arddangosfa gyhoeddus a drefnir gan neu ar ran y Cyngor yn ddwyieithog.

3.7 Hysbysiadau swyddogol, cyhoeddus ac hysbysebu swyddi

3.7.1 Bydd hysbysebion ac hysbysiadau yn y wasg, ar hysbysfyrddau neu mewn unrhyw gyfrwng arall yn ymddangos yn ddwyieithog.
3.7.2 Bydd hysbysebion am bob swydd yn ddwyieithog mewn cyhoeddiadau Saesneg/dwyieithog ac yn y Gymraeg yn unig mewn cyhoeddiadau Cymraeg.
3.7.3 Os nad oes ymgeisydd cymwys a all siarad Cymraeg yn gwneud cais am swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, ail hysbysebir y swydd gan gynnwys datganiad y bydd gofyn i’r person a benodir ddysgu Cymraeg (gweler 4.3.3).
3.7.4 Rhoddir cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar y gweithdrefnau cywir i’r staff sy’n ymwneud ag hysbysebu.

4. GWEITHREDU A MONITRO’R CYNLLUN 

Staffio

4.1.1 Yn ddelfrydol, bydd yr adrannau sydd â chyswllt, â’r cyhoedd yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael fel y bydd yn bosibl i ddarparu gwasanaeth llawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Nes bod hyn yn cael ei gyflawni dilynir y drefn a nodir ym mharagraff 2.4.2.
4.1.2 Cynhelir adolygiad o sgiliau’r staff er mwyn sefydlu y nifer o siaradwyr Cymraeg ac i nodi’r swyddi lle mae’r gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol. Llunir disgrifiadau o’r swyddi yn y dyfodol yn unol â hyn.
4.1.3 Wedyn fe sicrheir y dosbarthiad priodol o weithwyr dwyieithog trwy raglen o hyfforddi staff a recriwtio yn y dyfodol a fyddai felly yn gweithredu’r strategaeth staffio.
4.1.4 Bydd y mater o gynnal y lefel briodol o staff dwyieithog yn cael ei fonitro’n rheolaidd.

4.2 Dysgu’r Gymraeg

4.2.1 Bydd aelodau o’r staff sy’n delio gyda’r cyhoedd yn cael eu hannog i fynychu cyrsiau Cymraeg priodol yn lleol. Ni fydd yn ofynnol i neb wneud hynny.
4.2.2 Bydd dysgwyr yn cael eu cymell i geisio am gymwysterau cydnabyddedig megis NVQ.
4.2.3 Anogir staff sy’n dysgu Cymraeg i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gweithle.
4.2.4 Darperir copïau o gyhoeddiadau priodol, gan gynnwys y Geiriadur Llywodraeth Leol, ar gyfer y swyddfa.

4.3 Recriwtio

4.3.1 Bydd gallu ieithyddol yn un o nifer o sgiliau a ystyrir wrth benodi staff. Lles yr ystyrir bod y gallu i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol ar gyfer unrhyw swydd, bydd hynny’n cael ei ddatgan wrth recriwtio ar gyfer y swydd honno.
4.3.2 Mewn sefyllfa lle bydd gan ddau ymgeisydd am swydd lle mae’r Gymraeg yn ddymunol yr un cymwysterau a phrofiad, bydd lefel y sgiliau mewn dwyieithrwydd yn llywio’r penderfyniad.
4.3.3 Pe bai rhaid penodi unigolyn di-Gymraeg I swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, amod y penodiad fydd dysgu’r Gymraeg I’r lefel ofynnol o fewn cyfnod y cytunwyd arno a gyda chefnogaeth y Cyngor.
4.3.4 Rhoddir cyhoeddusrwydd i’r ffaith bod croeso i siaradwyr Cymraeg ymuno â’r gweithlu trwy sicrhau bod pob hysbyseb am swydd yn ymddangos yn ddwyieithog a bod y wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i’r Ganolfan Waith pan fo hynny’n berthnasol.

4.4 Trefniadau Gweinyddol 

4.4.1 Mae gan y cynllun hwn lawn gefnogaeth y Cyngor a Chlerc y Dref.
4.4.2 Clerc y Dref fydd â’r cyfrifoldeb am weithredu’r cynllun o fewn y Cyngor a bydd ef:

  • yn sicrhau bod canllawiau a chyfarwyddiadau ar gael i’r holl staff sy’n ymwneud â gweithredu’r cynllun;
  • yn monitro gweithredu’r cynllun;
  • yn darparu adroddiad blynyddol ar weithredu’r cynllun I Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

4.4.3 Bydd y Cyngor yn sicrhau bod pob aelod o’r staff yn ymwybodol o oblygiadau’r cynllun trwy ddarparu canllawiau manwl ar eith weithredu a chynnal seminar rhagarweiniol.
4.4.4 Bydd manylebau ar gyfer rhaglenni cyfrifiadurol newydd, neu yn lle hen rai, neu wedi eu haddasu, yn galluogi’r Cyngor I weithredu’r ymrwymiadau yn y cynllun.

4.5 Gwasanaethau a gyflenwir ar ran y Cyngor gan bartïon eraill

Nid yw’r Cyngor ar hyn o bryd yn defnyddio trydydd bartïon i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar ei ran ond pe bai hynny’n digwydd yn y dyfodol, bydd unrhyw drefniadau a wneir yn cydymffurfio â gofynion y cynllun.

4.6 Swyddogaethau Statudol

Pan yr ymgynghorir â’r Cyngor ar geisiadau cynllunio, bydd y Cyngor yn annog ymgeiswyr i godi arwyddion dwyieithog ar safleoedd yn y dref megis swyddfeydd a siopau trwy:

  • gyfeirio at gymeriad dwyieithog yr ardal;
  • ddynodi bod y Cyngor yn fodlon cynnig cyngor a chymorth mewn cysylltiad ag arwyddion dwyieithog.

4.7 Y Gwasanaeth Cyfieithu

4.7.1 Y cyfieithydd fydd yn gyfrifol am anghenion cyfieithu ysgrifenedig y Cyngor ac hefyd am reoli ansawdd pob testun Cymraeg a gynhyrchir gan y Cyngor.
4.7.2 Bydd cyfieithydd y Cyngor yn unigolyn â chymwysterau priodol a fydd yn medru darparu gwasanaeth o safon uchel.
4.7.3 Os nad yw’r cyfieithydd yn medru cwblhau’r gwaith yn yr amser angenrheidiol trefnir i gyfieithydd proffesiynol allanol wneud hynny.
4.7.4 Clerc y Dref fydd yn gyfrifol am drefnu gwasanaeth cyfieithu ar-y-pryd ar gyfer holl anghenion y Cyngor. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael yn holl gyfarfodydd y Cyngor llawn ac mewn cyfarfodydd cyhoeddus a drefnir gan neu ar ran y Cyngor.

4.8 Monitro

4.8.1 Bydd gweithredu’r cynllun yn cael ei fonitro.
4.8.2 Clerc y Dref fydd â’r cyfrifoldeb am fonitro’r cynllun ac am ddarparu adroddiad yn flynyddol i’r Bwrdd Iaith.
4.8.3 Cynhwysir yr eitemau canlynol yn y broses monitro:

Blaengynllunio:

  • sicrhau bod polisïau newydd neu gyhoeddiadau a rhaglenni cyfrifiadurol newydd yn cyd-fynd â chyflenwi gwasanaethau dwyieithog ar sail cydraddoldeb.

Cyflenwi gwasanaethau: 

  • gweithredu trefniadau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau’r Cyngor yn ddwyieithog, a’u heffeithlonrwydd; 
  • i ba raddau y mae’r Cyngor yn annog ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg gan gyrff cyhoeddus eraill.

Ymdrin â’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg: 

  • amserau ate bar gyfer gohebiaeth yn y Gymraeg; 
  • gweithredu’r mesurau ar gyfathrebu dros y ffôn;
  • yr ansawdd a’r defnydd a wneir o’r gwasanaethau cyfieithu ar-y-pryd;
  • y trefniadau a wneir ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus;
  • naws dwyieithog y mannau gwaith y caniateir y cyhoedd fynediad iddynt.

Wyneb cyhoeddus y Cyngor:

  • gweithredu delwedd gorfforaethol y Cyngor; 
  • cyflwyno’n ddwyieithog cyhoeddiadau, ffurflenni, arwyddion, hysbysiadau a deunyddiau cyhoeddiedig eraill.

Staffio:

  • i ba raddau mae’r lefel briodol o siaradwyr Cymraeg, ac hyfforddi staff, yn cael ei chyflawni.

Amserlen:

  • gweithredu’r mesurau yn erbyn amserlen y cynllun.

Cwynion: 

  • Nifer a nature y cwynion a dderbynnir mewn perthynas â gwasanaeth y Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg ad awgrymiadau ar gyfer ei wella.

4.8.4 Bydd y Cyngor yn cynnal arolygon barn achlysurol i geisio barn siaradwyr Cymraeg am amrediad a safon y gwasanaethau a ddarperir yn y Gymraeg.
4.8.5 Bydd pob cyhoeddusrwydd ynglyn â’r cynllun yn datgan at bwy y dylid cyfeirio cwynion ynglyn â’i weithredu. Bydd pob cwyn a dderbynnir yn cael ei chydnabod mewn ysgrifen, ei chofnodi ac yn cael ei thrin fel bo’n addas.
4.8.6 Bydd y Cyngor yn annog ac yn croesawu awgrymiadau oddi wrth y staff a’r cyhoedd ynglyn â gwella unrhyw agwedd o’r cynllun. Cydnabyddir pob awgrym a dderbynnir mewn ysgrifen.
4.8.7 Bydd pob aelod o’r staff yn derbyn disgrifiad o’r drefniadaeth gywir ar gyfer gweithredu’r cynllun.

4.9 Targedau y gellir arolygu gweithredu yn eu herbyn

Bydd gweithredu’r cynllun yn cael ei fesur yn erbyn yr amserlen a ddarperir (gweler 4.12 isod). Bydd yr ymrwymiad presennol i safon a phrydlondeb wrth ddelio gyda busnes y Cyngor yn cael ei gynnal o’r dechrau (gweler 1.3.3).

4.10 Cyhoeddi Gwybodaeth

Cyhoeddir adroddiadau ar weithredu’r cynllun yn flynyddol. Bydd y rhain yn ymwneud â materion megis:

  • yr amser a gymerir i ateb gohebiaeth yn y Gymraeg;
  • canran y cyhoeddiadau a gynhyrchir yn ddwyieithog;
  • canran y datganiadau i’r Wasg a gyhoeddir yn ddwyieithog;
  • perfformiad o ran cyfarfod â therfynau amser ar gyfer prosesu ceisiadau a wneir yn y Gymraeg;
  • nifer y siaradwyr Cymraeg yn y gweithle o’i gymharu â’r targed a osodwyd;
  • esboniad o unrhyw fethiant i gyrraedd y safonau a thargedau a osodwyd, a disgrifiad o’r camau a gymerir i gywiro’r sefyllfa.
4.11 Cyhoeddusrwydd

Darperir gwybodaeth ynglyn â’r cynllun i’r cyhoedd mewn taflenni dwyieithog a ddosberthir o swyddfeydd y Cyngor a chanolfannau priodol eraill megis y Llyfrgell, y Ganolfan Hamdden, y Ganolfan Gymunedol ac yn y blaen. Bydd y deunydd cyhoeddusrwydd yn cadarnhau bod y Cyngor yn cynnig gwasanaeth cyflawn drwy gyfrwng y Gymraeg.

4.12 Amserlen

4.12.1 Mae gan dref Caerfyrddin nifer uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae defnyddio’r Gymraeg ar sail feunyddiol yn rhan naturiol o bob agwedd o fywyd. Mae nifer sylweddol o aelodau, swyddogion ac eraill sy’n ymwneud â gwaith llywodraeth leol yn defnyddio’r Gymraeg yn naturiol wrth eu gwaith bob dydd er, fel mae’n digwydd, ychydig o siaradwyr Cymraeg sydd ar staff Cyngor Tref Caerfyrddin ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r eitemau a nodir o dan Adrannau 2 a 3 o’r cynllun hwn eisoes yn eu lle.
4.12.2 Bydd Clerc y Dref a’r cyfieithydd yn adolygu’r sefyllfa bresennol mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau yn unol â’r cynllun hwn, ac yn nodi’r meysydd sydd angen sylw. Bydd yn angenrheidiol i’r Cyngor Tref glustnodi arian newydd ar gyfer adnewyddu’r offer cyfieithu; anfon staff ar gyrsiau Cymraeg fel bo’n addas; darparu ar gyfer gwaith cyfieithu ychwanegol a datblygu dylunio a chyhoeddi dwyieithog.
4.12.3 Bydd y Cyngor Tref yn dechrau gweithredu’r cynllun (mewn ystyr ffurfiol) o ddyddiad ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg (sef 21 Gorffennaf 1997) gyda’r bwriad y bydd yn weithredol i raddau helaeth o fewn 12 mis o’r dyddiad hwnnw. Yr unig eithriadau i hyn fydd y canlynol:

2.3.3/ Offer cyfieithu ar-y-pryd

2.3.8 yn ddibynnol ar y sefyllfa gyllidol, ac wedi ymgymryd ag ymchwil i fewn i’r galw tebygol am ei ddefnydd gan gyrff eraill yn y gymuned;

3.2.1 Arwyddion newydd 

Fel mae’r angen yn codi am osod arwyddion newydd ac adnewyddu hen arwyddion;

3.3.7 Testun a ddarperir yn y swyddfa

Yn dibynnu ar flaenoriaethau eraill yn gysylltiedig â’r iaith a’r adnoddau staff fydd ar gael;

4.1.3 Dosbarthiad o weithwyr dwyieithog

Gweithredir ar y cyfle cyntaf fydd yn codi, wrth i

  • swyddi dod yn wag;
  • adnoddau fod ar gael i gefnogi unrhyw aelodau o’r staff sy’n dymuno mynychu cyrsiau Cymraeg priodol. 
4.13 Cysylltiad o fewn y Cyngor

Dylid cyfeirio unrhyw sylwadau, cwynion neu awgrymiadau yn gysylltiedig â’r cynllun at:

Clerc y Dref
Cyngor Tref Caerfyrddin
Neuadd Ddinesig San Pedr
Maes Nott
Caerfyrddin SA31 1PG

Ffôn: 01267 235199
Ffacs: 01267 221607