Porthladd Caerfyrddin
Mae’r Maer hefyd yn dwyn y teitl Llyngesydd Porthladd Caerfyrddin, a roddwyd gan Siartr Harri’r Wythfed ym 1546. Rhoddwyd Siartr y Llyngesydd gan Harri i’r Maer, y Bwrdeisiaid a Gwerin tref Caerfyrddin ac i’w holynwyr 'for ever upon the River Towy from the bridge of Carmarthen to the bar of the said river'.
Mae’r Siartr hwn yn galw i gof y blynyddoedd pan ‘roedd y Tywi yn afon lewyrchus yn cysylltu Caerfyrddin a’r cyrion gyda Môr Hafren a thu hwnt. Bu llongau nwyddau yn angori yn y Cei lle cafwyd llu o stordai. Arweiniodd dyfodiad y rheilffyrdd at leihad yn y drafnidiaeth ar yr afon, ac at y dirywiad yn y diwydiant adeiladu cychod a gymerodd le yn ymyl y Cei a’r Lanfa.
‘Roedd yn draddodiad yn y dyddiau pan ‘roedd Caerfyrddin yn borthladd pwysig i’r Maer a’r Gorfforaeth deithio i lawr i far y Tywi ar ‘Ddiwrnod Llys y Llyngesydd’, pryd ‘roedd yn ddyletswydd ar y Maer i gynnal Llys y Llyngesydd at y pwrpas o wneud ymholiadau i gyflwr yr afon ac atal niwsans.
Mae recordiau Tuduriaid yn dangos mewnforio fel haearn, plwm, glo, mêl, halen, gwin, olew a sbeisiau, ac allforio o frethyn a gwlân. Yn y 17eg canrif gwelwyd cynnydd yn mewnforio nwyddau moeth fel sebon, piwter, finegr, siwgr, ffrwyth, sinsir, marmalêd, fframiau gwely a nwyddau pres. Yn y 1720au roedd 57 llong wedi eu cofrestru yng Nghaerfyrddin, gyda’i thunnell ar y pryd dwywaith un Caerdydd.
Yr 1840au oedd anterdd Caerfyrddin fel porthladd, i longau hwylio a stêm. Cafodd llongau lan hyd at 330 tunnell eu hadeiladau yng Nghaerfyrddin, yng nghyffiniau'r Ganolfan y Cei bresennol.
Dim ond pob dwy wythnos roedd y llanw yn addas i longau mawr. Ar brydiau arall byddai’r llongau yn gostwng yr angor lawr yr afon ac yn dadlwytho i ysgraffau a badau dadlwytho. Roedd siltio’r afon, a’r perygl a orweddai gan Foryd Caerfyrddin - bar tywod yn yr aber - yn broblem parhaol ar draws y canrifoedd. Prysurodd datblygiad Cymru ddiwylliannol, a’r rheilffordd, dirywiad y porthladd. Yn 1938 ymwelodd y llong fasnach olaf ym mhorthladd Caerfyrddin.
Cafodd
pont y dref ei gynllunio yn 1933 gan Clough Williams-Ellis o Bortmeirion enwog. Mae wedi ei wneud o fferoconcrit gyda thorddyfroedd o dywodfaen llwyd. Saif y bont a safle’r bont ganoloesol (cofnodedig gyntaf yn 1233), ar neu’n agos i groesfan yr afon Rufeinig.
Pan agorodd y
masnachwyr adeiladwyr 'Towy Works' ei adeilad newydd ar y Cei yn 1909, cafodd ei ddisgrifio fel 'almost an eighth wonder of the world'. Mae ei raddfa a’i leoliad yn tystio pwysigrwydd yr afon tuag at fasnach Caerfyrddin, hyd yn oed ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif. Cafodd y cwmni ei sefydlu yn Heol Awst yn 1795.
Mae mur y Cei wedi ei rhestri fel un o ddiddordeb hanesyddol.
Cafodd
Ffordd y Cwrwg ei adeiladu yn 1963 er mwyn lleddfu tagfa’r traffig yng nghanol y dref, ac mae’n tendio gwahanu’r dref oddi wrth yr afon.
Agorwyd pont gerdded a seiclo
Pont King Morgan yn 2008, ac y mae wedi ennill gwobrau lleol a chenedlaethol. Mae’r cynllun crogiant yn ein hatgoffa o fastiau uchel y llongau a oedd yn arfer docio ger Y Cei pan oedd Caerfyrddin yn borthladd prysur.