Llys y Morlys

Mae gan y Maer hefyd y teitl o Lyngesydd Porthladd Caerfyrddin, a ganiatawyd drwy Siartr Hari’r VIII yn 1546. Caniatodd Hari 'Charter of Admiral to the Mayor and Burgesses and Commonalty to the town of Carmarthen and to their successors for ever upon the River Towy from the bridge of Carmarthen to the bar of the said river'.

Mae’r Siartr yn galw i’r cof y blynyddoedd pan mae’r Tywi oedd yn cysylltu Caerfyrddin gyda Môr Hafren a thu hwnt. Llongau cargo wedi eu clymu ger y Cei, a oedd wedi’i leinio gyda warysau. Dyfodiad y rheilffordd arweiniodd at ddirywiad traffig yr afon a’r busnes adeiladu cychod a oedd ger y Cei.

Roedd yn arferiad yn yr oes pan oedd porthladd Caerfyrddin yn un pwysig i’r Maer a’r Gorfforaeth fordeithio lawr at y ‘bar’ ar Ddydd Llys y Llyngesydd, pan roedd yn ddyletswydd ar y Maer y gynnal Llys y Llyngesydd er mwyn ymholi ynglyn â chyflwr yr afon ac atal niwsans.

Mae’r arferiad yma’n parhau, diolch i Clwb Iot Afon Tywi gyda’i aelodau yn cludo’r Maer ai westeion i archwilio’r Afon Tywi, ac yna i dderbyniad yng Nghlwb Iot yn Glan y Fferi.

court of admiralty