Sicrhau bod cymunedau yn cadw mewn cysylltiad - Rhithwir

Sicrhau bod cymunedau yn cadw mewn cysylltiad - Rhithwir

Ers i'r argyfwng Coronafeirws ddechrau, byddai nifer o Grwpiau Cymunedol yn cwrdd yn rheolaidd ac yn cadw mewn cysylltiad wyneb yn wyneb. Y neges bellach yw bod angen i ni aros yn ddiogel ac aros gartref ac wrth gwrs, mae'n hanfodol ein bod yn dilyn y rheolau hyn i gadw ein hunain a'n gilydd yn ddiogel ac yn iach. Food bynnag, mae angen rhyngweithio cymdeithasol ar bob un ohonom ac yn ystod y cyfnod hwn o gadw pellter cymdeithasol ac aros gartref, mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen. Yn ffodus, mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad ac nid oes yn rhaid i'ch cyfarfodydd a gweithgareddau rhyngweithio rheolaidd ddod i ben. Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau a'ch teulu hefyd.

Os ydych yn cynnal grwp cymunedol, dosbarth wythnosol neu glwb llyfrau anffurfiol, mae'n werth ystyried cynnal eich grwp ar-lein.

Mae llawer o bobl bellach yn sefydlu "grwpiau cymunedol rhithwir" i helpu cymunedau i gadw mewn cysylltiad. Mae llawer o wahanol lwyfannau y gallech eu defnyddio. Byddai angen i chi benderfynu gydag aelodau o'ch grwp pa un yr hoffech chi i gyd ei ddefnyddio. Mae llwyfannau megis Zoom, Google Hangout, WhatsApp a Skype yn ffyrdd gwych o ddod â grwpiau o bobl ynghyd i barhau i gyfarfod a sgwrsio â'i gilydd yn ffurfiol neu'n anffurfiol.

Bydd llawer o bobl eisoes yn gyfarwydd â'r llwyfannau hyn, ond efallai na fydd rhai wedi'u defnyddio o'r blaen. Os nad yw rhai aelodau o'ch grwp yn gyfarwydd â defnyddio ffonau clyfar, llechi neu gyfrifiaduron, efallai y gallech gysylltu â rhywun yn eich grwp a allai egluro'r broses iddynt.

Rydym wedi llunio ychydig o ganllawiau cam wrth gam ar gyfer rhai o'r llwyfannau mwyaf poblogaidd (gweler y ddogfen amgaeedig):

WhatsApp – Mae'r ap digidol hwn, a ddefnyddir yn bennaf ar ffonau clyfar, yn caniatáu i ddefnyddwyr anfon negeseuon testun a negeseuon llais, gwneud galwadau llais a fideo, a rhannu delweddau, dogfennau, lleoliad defnyddwyr, a chyfryngau eraill.

Zoom - Dyma un o'r cymwysiadau meddalwedd am ddim mwyaf poblogaidd ledled y byd. Mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer teleweithio, addysgu o bell, a chysylltiadau cymdeithasol. Mae llawer o bobl yn ei ddefnyddio ar gyfer cynadleddau busnes ond gellir ei ddefnyddio hefyd i sgwrsio â theulu a ffrindiau, a hynny am ddim am hyd at 40 munud ar y tro.

Google Hangouts - Mae Hangouts yn caniatáu sgyrsiau rhwng dau neu fwy o ddefnyddwyr. Gellir cyrchu'r gwasanaeth ar-lein drwy wefannau Gmail neu Google+, neu drwy apiau symudol sydd ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac iOS.

Skype - Mae hwn yn ap telathrebu sy'n arbenigo mewn darparu sgwrs fideo a galwadau llais rhwng cyfrifiaduron, llechi, dyfeisiau symudol, consol Xbox One, ac oriawr glyfar dros y rhyngrwyd. Mae Skype hefyd yn darparu gwasanaethau negeseua gwib. Gall defnyddwyr drosglwyddo testun, fideo, sain a delweddau.