O amgylch Caerfyrddin – Gosod yr Olygfa

River Towy




Mae pob tref yn unigryw, ond mae Caerfyrddin yn arbennig felly oherwydd cyfuniad ei lleoliad daearyddol, ei hanes hir ac amrywiol, ei diwylliant, a’i rôl fel tref sirol. Am ei bod wedi ei lleoli ar derfynau’r llanw a man isaf pontio Afon Tywi daeth yn ganolbwynt naturiol i ffyrdd gorllewin Cymru.

Mae’r afon, a fu unwaith yn brif wythïen y dref, yn parhau i gynnal y grefft hynafol o bysgota o gwryglau, sydd i’w gweld yn ystod misoedd yr haf. Wrth gerdded y strydoedd prysur troellog byddwch yn llythrennol yn troedio llwybrau a osodwyd o bosib ugain canrif yn ôl, gan mai’r Rhufeiniaid a sefydlodd Gaerfyrddin fel prifddinas ranbarthol.

Mil o flynyddoedd yn ddiweddarach, wrth orchfygu’r wlad, gwelodd y Normaniaid hefyd bwysigrwydd ei lleoliad strategol. Yma y sefydlodd brenhinoedd Lloegr eu prifddinas ranbarthol a’i gweinyddu o Gastell Caerfyrddin. Ym Mhriordy Caerfyrddin, un o ddau dy mynachaidd mawr y dref, yr ysgrifennwyd “Llyfr Du Caerfyrddin” - y llawysgrif hynaf yn y Gymraeg i oroesi. Mae pobl y dref yn adlewyrchu’r gymysgedd amrywiol a nhw sy’n gwneud y dref yr hyn yw hi heddiw, gyda’r Gymraeg a’r Saesneg yn cydgymysgu’n rhwydd. Mae Caerfyrddin yn edrych yn ôl ar ei hanes â balchder, ond y mae hefyd yn edrych ymlaen, oherwydd mae hi’n dref llawn bywyd ac yn ganolfan siopa fodern.

Cofrestru am DDIM


Taith 1 - Parc a Tywi
Taith 2 - Taith Myrddin
Taith 3 - Pyllau Cwmoernant
Taith 4 - Porthmon Caerfyrddin
Taith 5 - Coed Ystrad
Taith 6 - Llanllwch
Taith 7 - Abergwili
Taith 8 - Dwyrain Caerfyrddin
Taith 9 - Gorllewin Caerfyrddin
Taith 10 - Gwlyptiroedd 1
Taith 11 – Gwlyptiroedd 2
Taith 12 – Yr Hen Dderwen
Taith 13 - Llangynnwr Trail

Mae’r daith hon yn cynnwys Parc Caerfyrddin,  Afon Tywi, Heol Las a Heol Awst ac yn darparu taith gerdded fer a bleserus iawn o amgylch Caerfyrddin.  Dechreuwch ym Mharc Caerfyrddin gyda’r Siop De, felodrom, mannau eistedd, ardaloedd chwarae a thoiledau.  Gwnewch eich ffordd drwy’r parc a tuag at Afon Tywi.  Crwydrwch ar hyd llwybr yr afon wrth wylio’r elyrch, pysgod a’r bywyd gwyllt ar hyd glannau’r afon.  Wrth ichi groesi yn ôl fewn i Heol Las fe welwch Rodfa Myrddin a nifer o siopau a masnachwyr annibynnol.  Wrth i chi fynd rownd y gornel i mewn i Borth Tywyll mae yna baneli dehongli am hanes y dref, ac os edrychwch i fyny fe welwch y Pot Coffi mawr uwchben Cymdeithas Adeiladu Nationwide.  Gellir gweld Heol Awst, sydd wedi’i lenwi a thafarndai traddodiadol, siopau hyfryd a bwytai, wrth i gerdded y stryd lydan hon.  Mae yna lawer o adeiladau crefyddol yma hefyd gan gynnwys Capel Heol Awst gyda’i hanes helaeth yn y dref. Dychwelwch i Barc Caerfyrddin am baned o de neu ddanteithion!

Dechrau: Parc Caerfyrddin
Pellter: 0.95km








Mae Llwybr Myrddin yn llwybrau heddychlon o amgylch Caerfyrddin ac i Abergwili.  Wrth i chi ddilyn y llwybr allan o Barc Caerfyrddin ac ar hyd yr Afon Tywi nodwch faint o natur gwyllt y gallwch ei weld.  Wrth adael Caerfyrddin ymunwch â Heol Abergwili ac yna croesi pont Afon Gwili.  Mae gan Abergwili llawer i gynnig gyda’i dreftadaeth a’i hanes amrywiol yn hen Blas yr Esgob.  Edmygwch Amgueddfa Caerfyrddin gyda’i hanes lleol yn dod yn ôl yn fyw, o’r Rhufeiniaid i Lyfr Du Caerfyrddin eiconig.  Yn arwain allan o Abergwili fe welwch gae hyfforddi Clwb Rygbi Cwins Caerfyrddin, a’r bywyd  cymunedol gwledig.  Ar draws y caeau rydych yn cyrraedd Heol Dolgwili sydd a mynd a chi i gefn Ysbyty Glangwili.  Cerddwch berimedr allanol yr ysbyty a chroeswch Heol Abergwili I gyrraedd y llwybr sydd yn mynd a chi i Tanerdy.   Ewch ymlaen heibio'r Hen Weithdy Tun, yr Hen Briordy a Pharc Hinds nes i chi gyrraedd lôn gul.  Dilynwch y lôn i Stryd y Prior a Chlwb Pêl-droed Caerfyrddin.  Ewch heibio Hen Ysgol Ramadeg y Bechgyn, cerddwch fyny Stryd Dwr Fach hyd nes i chi gyrraedd Stryd y Brenin.  Saif Eglwys San Pedr yn falch ar ben Stryd y Brenin,  ewch i ymweld â’r eglwys a gweld yr arddangosfeydd hanesyddol rhyfeddol.  Ymhellach ymlaen ar Stryd y Brenin mae Theatr y Lyric, a chynhelir sioeau ac actau yno’n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.  Mae’n werth ymweld â Chastell Caerfyrddin gyda’i dreftadaeth a chwedlau o’r gorffennol. Dychwelwch drwy Porth Tywyll a Heol Awst, gan basio Gwesty Pen y Baedd a Chapel Heol Awst.

Cychwyn: Parc Caerfyrddin
Pellter: 6.61km



Mae Pyllau Cwmoernant, yr Afon Tywi a Chwryglau Caerfyrddin yn aros amdanoch ar y daith hon.  Dechreuwch ym Mharc Caerfyrddin gyda’i ardaloedd chwarae, y Siop De, felodrom, mannau eistedd a thoiledau.   Dilynwch y map Plotaroute a gadewch Barc Caerfyrddin.  Ewch heibio’r panelu dehongli ger Canolfan y Cei a dysgwch am orffennol Caerfyrddin. Wrth i Afon Tywi ystum i fyny’r afon dilynwch lwybr y porthladd prysur, lle'r oedd llongau yn arfer docio.  Gadewch brysurdeb y dref ar ôl wrth i chi gerdded strydoedd ffiniol y dref ac ewch tuag at yr ardaloedd mwy gwledig.  Wrth ichi gerdded tuag a Heol Abergwili gwelwch y coed prydferth a’r bywyd gwyllt yn fframio’r llwybr ac yn eich denu ymlaen.  Ym Mhyllau Cwmoernant mae’r dwr lleddfol yn llonydd ac mae yna fannau i eistedd ac ymlacio.  Mae yna hwyaid, bywyd gwyllt, Llwybrau Tylwyth Teg a lili’r dwr o amgylch y ddau bwll, ac mae yna ddigon o gyfle i archwilio natur.  Wrth i chi ddilyn y llwybr i ben y lôn allwch edmygu’r golygfeydd tawel ac yna dychwelyd yn araf i mewn i Gaerfyrddin.  


Dechrau:   Parc Caerfyrddin
Pellter: 4.46km





Mae Llwybr Porthmon Caerfyrddin yn mynd am dro o amgylch ochor ogledd-orllewin Caerfyrddin lle welwch lwybrau a ddefnyddir gan y porthmyn flynyddoedd lawer yn ôl i gyrraedd Marchnad Caerfyrddin.  Gadewch Barc Caerfyrddin i gyfeiriad y Safle Seindorf a’r gât yn y cornel uchaf. Croeswch y ffordd yn ddiogel gan ddefnyddio’r groesfan cerddwyr ac ewch tuag at Llys Picton.  Fe sylwch ar Eglwys Dewi Sant a gaeodd yn 2003 oherwydd difrod storm.  Mae Heol Santes Non yn eich arwain o’r dref, dilynwch y llwybr ar y brig i Rodfa Crispin.  Yna mae’r llwybr yn dilyn ffin Ysgol Eglwysig Cymru Y Model, gan arwain i lawr Maes Picton ac ymlaen i berimedr Parc Penllwyn.  Mae Llwyn Onn yn eich cymryd i Heol Ffynnon Job sydd yn dringo i fyny at Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle yn 1847 gosodwyd y garreg Sylfaen i adeiladu’r coleg gan Esgob Ty Ddewi.  Ewch lawr heibio Theatr Genedlaethol Cymru, Canolfan S4C Yr Egin, a Choleg Cymraeg Cenedlaethol hyd nes i chi gyrraedd y cylchfan a throi i’r chwith i mewn i’r ystâd dai.  Dilynwch y map trwy’r ystadau nes i chi gyrraedd Heol Parcmaen.   Ewch yn ôl i Barc Caerfyrddin i gwblhau eich taith.


Dechrau: Parc Caerfyrddin
Pellter: 2.68km


 

 

Darganfyddwch Goedwig Ystrad a’i orffennol cudd ar y llwybr prydferth hwn. Gadewch Barc Caerfyrddin ac ewch tuag Afon Tywi ac ar hyd y llwybr ar lan yr afon. Cadwch lygaid allan am holl weithgareddau bywyd natur gwyllt a’r afon wrth i chi deithio ymlaen i Dre Ioan. Ger y Ganolfan Hamdden ewch yn ôl tuag at Gaerfyrddin i Siop Spar. Dilynwch y ffordd gyferbyn â’r Siop Spar i Lôn y Plas a throwch yng Nghoed y Plas i fynd yn syth am y goedwig sydd yn cael ei rheol gan Ymddiriedolaeth Coetir. Ar ben Coed y Plas fe welwch y llwybr i’r goedwig. Wrth i chi ddechrau dringo drwy’r goedwig mae’r bywyd gwyllt yn llythrennol o’ch cwmpas. Mae adar, gwiwerod a llawer o greaduriaid bach yn llenwi’r goedwig. Wrth i chi ddechrau dod lawr fe welwch Heol Alltycnap o’ch blaen. Ymunwch â’r ffordd a’i ddilyn i’r diwedd lle fyddwch yn ymuno gyda Heol Llansteffan eto. Teithiwch dros y ffordd ddeuol a heibio’r ‘Tafarn y Cyfeillion’ nes i chi gyrraedd Gwlypdiroedd Caerfyrddin ac ymlaen i Barc Caerfyrddin.

Dechrau: Parc Caerfyrddin 
Pellter: 4.0km

 

 

 

 

  

Gadewch Parc Caerfyrddin ac ewch am Rhiw’r Gofeb i’r gorllewin o Gaerfyrddin.  Fel byddwch yn mynd drwy Tre Ioan fe welwch nant Tawelan yn y pentref.  Ewch ymlaen ac allan o Dre Ioan, heibio’r ffynhonnau a chefn gwlad.  Croeswch pont y ffordd ddeuol ac fe welwch bentref Llanllwch o’ch blaen.   Wrth i Llanllwch eich croesawu mae’r cefn gwlad yn agor i fyny ac fe welwch yr adar a’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas.   Wrth fynd heibio’r eglwys yn Llanllwch fe welwch lwybr troed ar yr ochr arall i’r ffordd.  Cymrwch yr hawl tramwy cyhoeddus ar hyd nant Tawelan lle allwch glywed yr adar yn canu yn y coed.  Wrth gymryd y llwybr troed allan o’r stad fasnach fe welwch yr holl fusnesau sydd yn Nhre Ioan.  Dilynwch y llwybr nes i chi gyrraedd Heol Alltycnap lle fyddwch yn ymuno â Heol Llansteffan sydd yn arwain at Barc Tre Ioan.  Ger Parc Tre Ioan trowch fewn i’r Gwlypdiroedd a mwynhewch y llwybrau ar hyd y daith heddychlon. Dychwelwch i Barc Caerfyrddin.

Cychwyn: Parc Caerfyrddin

Pellter: 4.2km